Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Merch Perygl - Gomer yn cyhoeddi detholiad o waith Menna Elfyn

Tue, 05 Apr 11 16:40:00

Yr wythnos hon, bydd Gwasg Gomer yn cyhoeddi cyfrol bwysig o waith Menna Elfyn, un o feirdd pwysicaf y Gymru fodern.

Am y tro cyntaf, fe fydd y gyfrol hon yn cynnig detholiad cynhwysfawr o waith bardd sydd wedi chwarae rhan anhepgor yn natblygiad barddoniaeth am dros 35 mlynedd a mwy.

Yn y gyfrol Merch Perygl (Gomer, £12.99), ceir dros 150 o gerddi yn rhychwantu gyrfa gyfan y bardd hyd yma, o gyfrolau cynnar y saithdegau Mwyara a ‘Stafelloedd Aros, drwy’r wythdegau a’r nawdegau i gyfrolau diweddar megis y gyfrol ddwyieithog gan Bloodaxe, Perfect Blemish/Perffaith Nam a’r gyfrol ddiweddaraf gan Gomer, Er Dy Fod, yn 2007.

Cyhoeddir y gyfrol, sy’n cynnwys rhagair gan y golygydd Elin ap Hywel a rhagymadrodd cynhwysfawr gan Yr Athro M. Wynn Thomas, ar drothwy ben-blwydd y bardd yn chwedeg, ac wrth baratoi ar gyfer y garreg filltir arbennig honno, gallai’r golygydd ddim meddwl am well ddathliad.

'Mae Menna yn fardd amlwg a thoreithiog, ac yn un sy’n teithio ac yn cyfathrebu’n ddiflino trwy Gymru, trwy Ewrop ac ym mhedwar ban byd,' meddai Elin ap Hywel. 
 'Roedd y syniad o oedi am ennyd a chymryd cownt o’i gwaith, felly, yn un oedd yn apelio ati hi fel bardd, ataf i fel golygydd, ac at Gomer fel gwasg.'

Mae’r gyfrol yn cyflwyno’r cerddi fesul thema, yn rhannu gwaith y bardd i gynnwys cerddi ar fod yn ferch, gwleidyddiaeth a hunaniaeth, serch a nwyd, byd natur, pobl, cerddi ar yr ysbrydol ac iaith a’r broses o farddoni.

Meddai Menna Elfyn:


'Mae rhywun yn gallu gweld bod ‘na newid wedi bod, sawl troad yn yr yrfa fel petai, ac mae hynny’n beth braf.  Pan oeddwn i’n cychwyn mas, oedden nhw’n gerddi ‘gwres y funud’, yn amrwd o ran crefft efallai ond yn llawn angerdd a gwewyr.  Yn yr wythdegau mae’r sylw yn troi at blant, at gael plant, colli plentyn ac achosion fel heddwch a streic y glowyr.  Yn y nawdegau, symud i ffwrdd i raddau a theithio, ac yn y ddegawd ddiwethaf dyfnhau a chynhyrchu gwaith mwy ysbrydol rwy’n credu.'

Serch ei llwyddiant byd-eang, a gwahoddiadau di-ri i deithio’r byd i hyrwyddo cyfrolau newydd mewn ieithoedd tramor, mynna Menna Elfyn, sydd hefyd yn darlithio ar y cwrs gradd meistr ysgrifennu creadigol Cymraeg a Saesneg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mai bardd Cymraeg yw hi wastad, a dyna pam fod y gyfrol hon yn golygu cymaint iddi:

'Y nod yw cyflwyno detholiad hylaw sydd ar gael am bris rhesymol.  Bardd Cymraeg ydw i gyntaf, a’r Cymry yw fy nghynulleidfa gyntaf i.'

Bydd Menna Elfyn yn lansio’r gyfrol yn: Y Drwm, nos Iau, 7 Ebrill am 7 o’r gloch.  Tocynnau am ddim.



Manylion Cyswllt:

Gwen Siôn, Cambrensis Cyf, 01286 685 254 neu gwen@cambrensis.uk.com

Elin Hâf, Swyddfa'r Wasg LLGC, 01970 632534 neu post@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012