Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Cartref Cyntaf y Llyfrgell

Mon, 09 Jul 07 13:34:00



Ar nos Fercher 4 Gorffennaf dadorchuddiwyd plac i gofnodi lleoliad cyntaf y Llyfrgell Genedlaethol ar Faes Lowri yn Aberystwyth.



Wedi i Aberystwyth gael ei dewis yn lleoliad ar gyfer y Llyfrgell Genedlaethol yn 1907 bu’n rhaid aros rhai blynyddoedd nes bod yr adeilad newydd wedi ei hadeiladu ar riw Penglais. Am y cyfnod rhwng 1907 a 1916 bu’r hen Neuadd Ymgynnull, yr Assembly Hall, ar Faes Lowri a adeiladwyd ar ddechrau’r 19eg ganrif yn gartref dros-dro i’r Llyfrgell. Mae’r adeilad Sioraidd hardd hwn yn wynebu’r Hen Goleg, lleoliad Coleg Prifysgol hynaf Cymru.



Cyflwynwyd y plac, sydd o lechen Gymreig, gan Gymdeithas Ddinesig Aberystwyth gyda chefnogaeth Prifysgol Cymru, Aberystwyth.



Cafwyd cyflwyniadau gan Richard Lewis, Cadeirydd Cymdeithas Ddinesig Aberystwyth, Yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor a Prifathro Prifysgol Cymru Aberystwyth a Dr R Brinley Jones CBE, Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol.



I’r rhai sydd â diddordeb mewn gwybod mwy am hanes adeilad gogoneddus y Llyfrgell, mae arddangosfa 100: Canrif y Llyfrgell ymlaen yn ystafell arddangos Peniarth tan 5 Ionawr 2008. Bydd y Llyfrgell yn ogystal yn cyhoeddi llyfr am yr adeilad cyn diwedd y flwyddyn. Am ragor o wybodaeth am y Llyfrgell a’i chasgliadau mae llyfr arbennig y canmlwyddiant, Yn y Lle Hwn, nawr ar werth yn siop y Llyfrgell: siop.llgc.org.uk 




Gwybodaeth Bellach:



Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902  sij@llgc.org.uk




Dolenni:



Prifysgol Cymru, Aberystwyth: www.aber.ac.uk



Cymdeithas Ddinesig Aberystwyth: www.aberystwythcivicsociety.org.uk/

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012