Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Pedwar Canmlwyddiant Beibl y Brenin Iago

Tue, 26 Apr 11 16:41:00

Rhwng 23 Ebrill - 10 Medi 2011 bydd modd gweld un o’r argraffiadau gwreiddiol sydd wedi goroesi o Feibl y Brenin Iago ochr-yn-ochr â chyfieithiad Cymraeg 1588 William Morgan a thestunau crefyddol eraill mewn arddangosfa arbennig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.


 


Dathlu pedwar canmlwyddiant cyhoeddi Beibl y Brenin Iago yw amcan yr arddangosfa hon. 


 


Cafodd yr argraffiad hwn o’r Beibl Saesneg ei enwi ar ôl Brenin Lloegr, Iago I, a gomisiynodd gyfieithiad newydd yn 1604, cyfieithiad a gyhoeddwyd yn 1611.  Caiff ei adnabod fel y ‘Cyfieithiad Awdurdodedig’. 


 


Cydnabyddir bod Beibl y Brenin Iago yn gampwaith rhyddiaith Saesneg.  Fel yn achos gwaith Shakespeare, mae llawer o’r ymadroddion a’r priod-ddulliau a ddefnyddir yn y Beibl wedi dod yn rhan o iaith fodern bob dydd (yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg), pethau megis ‘by the skin of your teeth’, ‘flesh and blood’ a ‘labour of love’.  Fodd bynnag nid yw iaith y Beibl mor arloesol ag y mae rhai yn amgyffred gan fod llawer o’r idiomau hyn i’w canfod mewn fersiynau cynharach megis cyfieithiad William Tyndale yn 1525 ac yn dilyn hynny ym Meibl Genefa yn 1560.  


 


‘Mae’r Beibl yn chwarae rhan ganolog yng nghrefydd, diwylliant ac iaith unrhyw genedl. Mae hyn yn sicr yn wir am Beibl y Brenin Iago yng nghyswllt yr iaith Saesneg. Ym mlwyddyn pendwarcanmlwyddiant ei chyhoeddi, mae’r Llyfrgell yn falch iawn o fod yn rhan o’r dathliadau hynny ac o arddangos peth o gyfoeth ein casgliadau crefyddol eraill,’ meddai Andrew Green, Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol. 


 


Yma yng Nghymru, daeth cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg yn 1588 gan yr Esgob William Morgan yn un o’r digwyddiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes Cymru.  Fel yn achos Beibl y Brenin Iago, bu’n fodd i safoni’r iaith ac yn sail i ffydd grefyddol.  Hyd at ganol yr unfed ganrif ar bymtheg, ni châi’r Gymraeg ei hystyried yn ‘iaith swyddogol’ crefydd a’r gyfraith ac roedd yn dirywio.  Dim ond yn sgîl Deddf Seneddol yn 1563 a ddaeth yn dilyn pwysau gan Brotestaniaid Cymreig ysgolheigaidd y cafwyd cyfieithiad o’r Beibl.  Cwblhawyd y cyfieithiad cyntaf o’r Testament Newydd a’r Llyfr Gweddi Gyffredin yn 1567 gan William Salesbury a defnyddiodd William Morgan y gweithiau hynny yn sail i’w gyfieithiad o’r Beibl cyfan.  


 


Yma, diolch i gasgliad enwog y Llyfrgell o lyfrau a llawysgrifau prin, gellir gweld un o’r  argraffiadau gwreiddiol sydd wedi goroesi o Feibl y Brenin Iago ochr-yn-ochr â chyfieithiad Cymraeg 1588 William Morgan a thestunau crefyddol eraill. 


 


 


Trefnir nifer o ddigwyddiadau i gyd-fynd â thema crefydd a’r Beibl. Yn eu mysg mae; 


 


Yr Efengyl mewn Khaki 25 Mai 2011 


 Parch. Aled Huw Thomas 


 


The Dragon and the Cresent; Nine centuries of Welsh encounters with Islam 8 Mehefin 2011   


Dr Grahame Davies  


 


‘Pedwar Canmlwyddiant Beibl y Brenin Iago’
 23 Ebrill - 10 Medi 2011


Ystafell Arddangos Hengwrt


Llyfrgell Genedlaethol Cymru


Aberystwyth


Mynediad am ddim


 


Manylion Cyswllt:


Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC 01970 632 902 post@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012