Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Clive Hicks- Jenkins – Ôl Syllol

Wed, 04 May 11 09:40:00

Bydd arddangosfa fawr o waith yr artist Clive-Hicks Jenkins yn agor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ar Ddydd Sadwrn 7 Mai 2011. Bydd yr arddangosfa o 200 o beintiadau yn llenwi gwagle mawreddog 50m x 10m Oriel Gregynog, yn ogystal â’r oriel gyfagos fel terynged i un o artistiaid enwocaf Cymru, artist sydd â dilynwyr byd-eang.

Bu i’r adolygydd Nicholas Usherwood ddisgrifio'r peintiad o Clive Hicks-Jenkins fel rhai ‘adlewyrchol, llawn mynegiant o’r radd flaenaf’. Mae’r arddangosfa hon yn rhoi gwaith a themâu Clive Hicks-Jenkins yn amlwg i bawb eu gweld; ei ddiddordeb mewn creu ensemblau o wrthrychau cyfarwydd; y dilyniant o luniau anferth wedi cael eu hysbrydoli gan draddodiad gwerin y Fari Lwyd; y dilyniant o ddarnau pwysig wedi ei chreu mewn ymateb i ddarnau o allor yn Christ Church Picture Gallery a pheintiadau sy’n archwilio straeon o’r gwyrthiol.

O gefndir fel coreograffydd a chyfarwyddwr theatr, mae Hicks-Jenkins yn artist poblogaidd iawn ac yn creu dilyniant o ddarnau archwiliadol sy’n cofleidio ystod eang o bynciau drwy weledigaeth gyson a nodedig.
Mae ei waith yn cael ei gydnabod am ei emosiwn a’i ddynoliaeth ac yn derbyn ymateb gan gyd-artistiaid, beirdd ac awduron ym Mhrydain a’r UDA.

Mae’r arddangosfa yn cyd-fynd â chyhoeddi llyfr i ddathlu ei ben-blwydd yn 60 oed. Y llyfr hwn yw’r cyntaf i roi gorolwg o holl waith Clive Hicks–Jenkins. 
Mae’r testunau amrywiol, wedi eu hysgrifennu gan feirdd, nofelwyr a haneswyr celf wedi eu lleoli ym Mhrydain ac UDA yn cyfeirio at themâu amlwg o fewn gweithiau amrywiol Hicks-Jenkins.

Meddai’r actor Simon Callow am lyfr a gwaith Clive:

‘Mae’r erthyglau hynod yn y gyfrol hon yn esbonio Clive fel person a Clive fel artist; maen’t yn siarad am ei daith drwy fywyd a thrwy gelf, am ei ddylanwadau, am ei grefft sy’n tyfu bob dydd ac am ei ffynhonnau o weledigaeth. Maen’t yn archwilio ei fywyd mewnol. Mae’n stori afaelgar sy’n cychwyn ar roi cyfiawnder i un o artistiaid mwyaf unigryw ein dydd.’

Croesawa Andrew Green, Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol yr arddangosfa’n gynnes iawn:

‘Clive Hicks-Jenkins yw un o arlunwyr gorau Cymru heddiw o ddelweddau. Mae’r arddangosfa hon, un o’r rhai mwyaf a gynhaliwyd erioed gan y Llyfrgell Genedlaethol o gelf gyfoes, yn gyfle unigryw i weld yn y cnawd hyd a lled ei orchest. Mae lluniau Clive yn llawn ynni a chymhlethdod fydd yn gadael argraff ar unrhyw un fydd yn dod i Aberystwyth i’w gweld’

Nodiadau’r Golygydd:

Cyhoeddir dau lyfr i gyd-fynd â’r arddangosfa:
Clive Hicks-Jenkins (Lund Humphreys, 2011)
gan Simon Callow, Andrew Green, Rex Harley, Kathe Koja, Anita Mills, Montserrat Prat, Jacqueline Thalmann, Damian Walford Davies a Marly Youmans

The Book of Ystwyth: Six Poets on the Art of Clive Hicks-Jenkins (Carolina Wren Press, 2011)
gan Dave Bonta, Callum James, Andrew Selch, Catriona Urquhart, Damian Walford Davies a Marly Youmans

Wakelin Award
Cynhelir Gwobr Wakelin, gwobr gelfyddydol flynyddol fel rhan o’r lansiad ar 7 Mai 2011.

Sgwrs Oriel
Sgwrs Oriel ar Clive Hicks-Jenkins, dydd Llun 25 Gorffennaf am 1:15 p.m. 
Mynediad am ddim trwy docyn, archebwch eich lle ar-lein neu dros y ffôn: 01970 632548


Clive Hicks-Jenkins: Ôl-syllol
7 Mai – 20 Awst 2011
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 
Aberystwyth

Mynediad am ddim 

Am wybodaeth bellach a delweddau:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902 post@llgc.org.uk








Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012