Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Artist yn dadlennu doniau Geoff Charles

Wed, 11 May 11 13:59:00

Mae Luned Rhys Parri wrth ei bodd â’i phrosiect diweddaraf. A hithau artist preswyl newydd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru mae hi wedi ei phenodi i greu gwaith celf yn seiliedig ar ffotograffau Geoff Charles. Mae’r artist o’r Groeslon ger Caernarfon wedi cael rhwydd hynt i dwrio drwy gasgliad ffotograffau un o’i harwyr mwyaf.

Ymhlith y delweddau yn yr archif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae hi eisoes wedi dod ar draws ffotograff o gefnder ei mam, Victor Parry gyda Mari’r ferlen. 

“Mae’r bobol sydd yn y ffotograffau yn f'atgoffa cymaint o fy magwraeth a’m cefndir,” meddai. “Mae'n hawdd i'n cenhedlaeth ni uniaethu â'r lluniau gan ein bod yn siŵr o weld rhywun ynddyn nhw sy'n ein hatgoffa o ryw aelod o'r teulu.” 

Nod y cynllun preswyl, sy’n cael ei weithredu mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yw cydweithio gyda disgyblion ysgol gynradd yn y Canolbarth a myfyrwyr ysgol uwchradd yn y Gogledd. Drwy ddefnyddio’r ffotograffau dynnodd Geoff Charles fel man cychwyn, bydd y gweithdai yn dathlu bywyd a gwaith y newyddiadurwr, dreuliodd hanner canrif yn cofnodi digwyddiadau mân a mawr, ledled Cymru. O'r 1930au bu'n gweithio gyda phapurau newydd megisThe Wrexham Star,The Montgomeryshire Express a'r Cymro. Ymddeolodd Geoff yn 1975, ac er lles Cymru cyflwynodd ei gasgliad o 120,000 o negyddion i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Bellach mae modd gweld rhan helaeth o’r ffotograffau ar  wefan y llyfrgell.

Yn ôl Luned Rhys Parri, mawredd y ffotograffydd o Brymbo, ger Wrecsam, oedd y modd yr oedd yn manylu ar y pethau bychain yn ogystal â’r pethau mawr. 

‘Mae ei ffotograffau yn dyst o'r berthynas dda oedd ganddo gyda phobol,” meddai, “dyma'n union pam fy mod i eisoes wedi bod yn defnyddio lluniau Geoff Charles fel rhan o ’ngwaith.’

Tra bod yr artist wedi dechrau ar y gweithdai gyda disgyblion Ysgol Gynradd Dafydd Llwyd, Y Drenewydd, bydd Luned Rhys Parri yn cydweithio gyda myfyrwyr Ysgol Clywedog, Wrecsam, yn ystod y cyfnod yn arwain i fyny at yr Eisteddfod Genedlaethol yn y dref. Ym Mhrifwyl Wrecsam a’r Fro 2011 bydd cynnyrch yr ysgolion yn cael ei arddangos ochr yn ochr â sioe arbennig yn dehongli ffotograffau Geoff Charles, wedi’i drefnu gan yr artist Peter Finnemore a’r curadur Russell Roberts.

Mae Rhodri Morgan, o Wasanaeth Addysg y Llyfrgell Genedlaethol yn edrych ymlaen at weld y preswyliad yn cael ei wireddu.

‘Rydym yn hynod falch fod Luned Rhys Parri wedi ymuno gyda ni i weithio dros y chwe mis nesaf. Mae ei gwaith yn meddu ar y gallu i dynnu ar hynodrwydd a hiwmor y diwylliant Cymraeg yn ei ehangder. Ac mae ganddi’r ddawn o dynnu’r gorau allan o ddisgyblion ysgol a myfyrwyr. Edrychwn ymlaen yn fawr i weld sut bydd hi a’r cyfranogwyr ifainc yn ymdrin â chasgliad enwog, anferthol Geoff Charles.’

Yn ôl Robyn Tomos, Swyddog Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod Genedlaethol, mae’n siŵr y bydd cynnyrch yr artist a’r ysgolion yn denu tipyn o ddiddordeb yn y Brifwyl. 

‘Nôl yn Eisteddfod Dinbych 2001 enillodd Luned Rhys Parri wobr Dewis y Bobl a chyn hynny yn Nyffryn Conwy 1989 fe gipiodd wobr Myfyriwr y Flwyddyn.

‘Yn sgil gwaith estyn allan y Llyfrgell Genedlaethol yn Wrecsam, mae’n bleser cydweithio ar gynllun sy’n dathlu un o ‘artistiaid’ mawr y dref. Am flynyddoedd lawer, roedd Geoff Charles a’i gamera yn olygfa gyffredin yn yr Eisteddfod Genedlaethol.’

Gwireddir y cynllun preswyl gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru. 



Gwybodaeth Bellach:

Rhodri Morgan, Uned Addysg LlGC:
01970 632913 | rhodri.morgan@llgc.org.uk 

Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC:
01970 632902 | post@llgc.org.uk 

Robyn Tomos, Swyddog Celfyddydau Gweledol, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
029 2076 3777 | robyn@eisteddfod.org.uk 











Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012