Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Cadwyn ddynol i ddathlu Canmlwyddiant Adeilad y Llyfrgell.

Tue, 12 Jul 11 17:49:00

 Ar ddydd Gwener 15 Gorffennaf bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cofnodi canmlwyddiant gosod ei charreg sylfaen. I ddathlu’r diwrnod hanesyddol hwn mae’r Llyfrgell yn galw ar ei defnyddwyr a chefnogwyr i gofleidio’r adeilad ar gyfer yr hyn a dybir bydd y cwtsh mwyaf yn y byd!

Gosodwyd y garreg sylfaen gan y Brenin Siôr V i sain tanio gynnau gan fflotila o gychod ym Mae Ceredigion. Bydd dathliadau’r canmlwyddiant eleni ddim mor ffurfiol - ond bydd yr un mor uchelgeisiol.

Amcangyfrifa’r Llyfrgell y bydd angen 450 person er mwyn creu cadwyn ddynol o amgylch yr adeilad hanner kilomedr mewn cylchedd. Er bod y Llyfrgell yn cyflogi hyd at 300 o staff bydd dal angen help llawer o’r cyhoedd i ddangos eu cefnogaeth i’r adeilad hanesyddol a’i thrysorau amhrisiadwy.

‘Dros y blynyddoedd mae miloedd o bobl wedi ymweld â’r Llyfrgell i ddarllen yma neu i weld arddangosfa neu ddigwyddiad. Hoffem eu gwahodd yn ôl i ymuno â ni i greu cadwyn ddynol i ddathlu cyfraniad y Llyfrgell i fywyd diwylliannol a deallusol Cymru ac i dref Aberystwyth,’ meddai’r Llyfrgellydd, Andrew Green.

Ffurfir y gadwyn ddynol am 2.15. p.m. ar ddydd Gwener 15 Gorffennaf ac fe’i dilynir gan seremoni fer ar flaen yr adeilad neo-glasurol hardd gan Lywydd y Llyfrgell, Dafydd Wigley. Gwahoddir y cyhoedd sy’n rhan o’r cwtsh mawr fewn i’r adeilad am baned a chacen am ddim.

Gofynnir i gefnogwyr wisgo dillad coch os yw’n bosib – lliw logo’r Llyfrgell a’r Ddraig; fel y bydd y gadwyn i’w weld yn gliriach o bell.

‘Sefydlwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gefn ymgyrch codi arian ar lawr gwlad dros ganrif yn ôl. Yn hynny o beth mae’n unigryw ymysg holl lyfrgelloedd cenedlaethol y byd. Rydym nawr yn gofyn i bobl Cymru i ddangos eu cefnogaeth i’r Llyfrgell heddiw a chadarnhau fod yr adeilad a’i chasgliadau yma i wasanaethu pobl Cymru a’r byd am ganrif arall,’ ategodd y Llyfrgellydd.


Ffeithiau am y Llyfrgell


Cylchedd – 500m
Uchder – 18m 
Lloriant – 35,000m
 

Hanes yr Adeilad

Yn 1905 penderfynodd y Cyfrin Gyngor y byddai gan Gymru Llyfrgell ac Amgueddfa Genedlaethol. Penderfynwyd lleoli’r Llyfrgell yn Aberystwyth a’r Amgueddfa yng Nghaerdydd. 

Roedd y Llyfrgell i’w lleol ar dir a brynwyd ac a roddwyd i’r Llyfrgell gan yr Arglwydd Rendel, cyn Aelod Seneddol dros Sir Drefaldwyn. Cynhaliwyd cystadleuaeth i ddylunio’r adeilad gyda dau brif frîff; i ddylunio adeilad fyddai’n dangos pwysigrwydd dysg a chynnwys y casgliad ac yn ail i gadw mewn cof lleoliad yr adeilad. Enillwyd y gystadleuaeth gan y pensaer Sidney Kyffin Greenslade. Er nad hon oedd y cynllun mwyaf rhwysgfawr fe’i ffafriwyd gan y pwyllgor dewis gan ei fod yn ‘squat building’ ac felly’n fwy pwrpasol ar gyfer gwrthsefyll gwyntoedd neu stormydd mawr o’r môr a’r gorllewin.

Dechreuwyd y gwaith adeiladu yn 1911. Defnyddiwyd gwenithfaen Cernyw ar y llawr waelod a charreg wen Portland i’r lloriau uwchben. Cartrefwyd y llyfrgell ym Maes Lowri am y blynyddoedd cyntaf. Symudodd y staff a’r casgliadau cyntaf i’r adeilad yn 1916. Oherwydd cyfyngiadau ariannol y Rhyfel Mawr a’r Dirwasgiad ni chwblhawyd yr adeilad nes 1936 gan ei hagor yn swyddogol gan y Brenin Siôr VI yn 1937.


Digwyddiadau eraill Dathliadau Canmlwyddiant yr Adeilad

Dydd Mercher 13 Gorffennaf, 1.15 p.m.
Y Llyfrgell ar Ffilm – hen glipiau ffilm o’r Llyfrgell gan gynnwys gosod y garreg sylfaen, agoriad swyddogol 1937 a ffilm gartref gan Syr Ifan ab Owen Edwards.

Dydd Iau 14 Gorffennaf, 1.15. p.m.
Gwyneth Lewis – Barddoniaeth a sgwrs yng nghwmni Bardd Cenedlaethol Cymru adeg canmlwyddiant sefydlu’r Llyfrgell.

Dydd Gwener 15 Gorffennaf, 10.30 a.m. a 3.30 p.m.

Taith Dywys o’r Adeilad a’i Hanes yng nghwmni’r pensaer Tony Morgan 



Am wybodaeth bellach:

Gofynnwn i unrhyw unigolyn, deulu, clwb, busnes neu gymdeithas sydd am gymryd rhan yn y fenter gynhyrfus yma i gysylltu â:
01970 632534  neu post@llgc.org.uk

Ymholiadau’r Wasg:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902 post@llgc.org.uk 









 


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012