Wed, 22 Jun 11 14:11:00
Mae gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru nawr yn cynnig gwasanaeth arloesol sydd o fudd i ddysgwyr y Gymraeg.
Diolch i declyn BBC Vocab gall ddefnyddwyr weld cyfieithiad Saesneg o eiriau anghyfarwydd Cymraeg.
Ceir botwm Vocab yng nghornel dde uchaf tudalennau'r wefan. Pan fydd y darllenydd yn troi Vocab ymlaen mae’n cychwyn chwilio drwy’r testun ar y wefan ac amlygu geiriau Cymraeg cyfarwydd.
Wedyn pan fydd yn rhoi’r cyrchwr dros y gair bydd Vocab yn dangos cyfieithiad ohono. Mae yna hefyd ddolen i ddiffiniad llawn o'r gair yn safle Geiriadur arlein y BBC fel bod modd i’r darllenydd fynd i'r safle hwnnw am fwy o gymorth.
‘Mae Vocab yn rhan o bartneriaeth rhwng BBC Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg sy'n defnyddio geirfa Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor. Rydym yn hynod falch fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd yn gweithredu’n gwbwl ddwyieithog, yn gallu cymryd mantais o’r dechnoleg wych yma,’ meddai Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru sydd ei hun sydd wedi dysgu’r Gymraeg yn rhugl.
Dolenni:
Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Canolfan Bedwyr
BBC Cymru
Gwybodaeth bellach:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902 post@llgc.org.uk
Joanna Davies, Adran Rhyngweithiol a Dysgu BBC Cymru: 029 20 322614 joanna.davies@bbc.co.uk