Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Lansio gwasanaeth Sgwrs Sydyn.

Mon, 04 Jul 11 13:53:00

Dydd Llun, 4 Gorffennaf 2011 bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn lansio gwasanaeth newydd ar ei gwefan sef Sgwrs Sydyn. Mae'n wasanaeth newydd fydd yn ateb ymholiadau syml ac yn ddefnyddiol iawn i bobl sydd eisiau ateb sydyn. 

Mae Sgwrs Sydyn yn ychwanegiad i'r gwasanaeth ymholiadau traddodiadol sydd eisoes yn cael ei gynnig gan y Llyfrgell a'i gweinyddu trwy ein system QuestionPoint. Bydd modd i ymholwyr gysylltu'n uniongyrchol gyda’r tîm ymholiadau o wefan y Llyfrgell ac o dudalennau Facebook y Llyfrgell. 

Meddai Nia Wyn Dafydd, Rheolwr Gwasanaeth Ymholiadau:

’Mae Sgwrs Sydyn yn wasanaeth newydd, cyffrous a fydd yn ehangu ar y gwasanaeth ymholiadau sydd eisoes yn cael ei gynnig. Mi fydd yn gam arall tuag at wneud y gwasanaeth yn fwy cyraeddadwy i'n defnyddwyr.’

Ydych chi ar dân i ofyn cwestiwn? Manteisiwch ar ein gwasanaeth newydd i gael yr ateb.

Dolenni Defnyddiol:


Sgwrs Sydyn

Gwybodaeth bellach:



Elin Hâf, Swyddfa’r Wasg LlGC 01970 632534 neu post@llgc.org.uk



Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012