Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Yr Athro Dafydd Jenkins

Tue, 12 Jul 11 16:37:00

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn falch iawn i gyhoeddi y bydd ei darllennydd hynaf, Yr Athro Dafydd Jenkins sy’n gant oed, yn bresenol i ddathlu canmlwyddiant gosod carreg sylfaen yr adeilad ddydd Gwener 15 Gorffennaf 2011.


Mae’r Yr Athro Emeritws, Dafydd Jenkins yn feirniad ac hanesydd cyfreithiol o fri. Ganed ef yn 1911 yn Llundain i rieni o Geredigion, mynychodd Goleg Sidney Sussex, Caergrawnt ac fe alwyd i’r Bar yn 1934. Gweithiodd fel bar gyfreithiwr yng Nghaerfyrddin ac yn 1938 bu’n rhan o’r ymgyrch i gael statws i’r Gymraeg o fewn y llysoedd barn. Dros ei oes mae wedi bod yn aelod ac yn gadeirydd o sawl corff er hyrwyddo amaethyddiaeth a’r Gymraeg. Ers 1965 bu’n ddarlithydd yn Adran y Gyfraith, Aberystwyth gan ddal cadair Hanes Cyfraith a Chyfraith Cymru o 1975-78 hyd at ei ymddeoliad.



Mae’r Athro Jenkins wedi cyhoeddi sawl gwaith pwysig ar y cyfreithiau Cymreig,  gan gynnwys; Cyfraith Hywel (Llandysul, 1970), Celtic Law Papers (Brwsel, 1973), a The Law of Hywel Dda: law texts from Medieval Wales (Llandysul, 1986). Cyhoeddodd hefyd dau lyfr taith Gymraeg, Ar Wib yn Nenmarc ac Ar Wib yn Sweden, yn ogystal â llyfryn enwog Tân yn Llŷn (Aberystwyth, 1937), llyfr ar y nofel Gymraeg a Law for Co-operatives (Oxford, 1958). Yn ŵr ifanc, bu hefyd yn gyfrifol am sefydlu a chyd-olygu’r cylchgrawn Heddiw gydag Aneirin Talfan Davies o 1936 ymlaen. 


Mae bellach yn byw yng nghartre’r henoed, Pennal View ger Blaenpennal, Tregaron.


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012