Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Rhannwch eich atgofion ar y Maes.

Wed, 27 Jul 11 09:37:00

Bydd yr Eisteddfod a Chasgliad y Werin yn cydweithio yn ystod wythnos yr Eisteddfod er mwyn casglu atgofion Eisteddfodwyr Cymru.  Bydd lluniau o Eisteddfodau’r gorffennol i’w gweld o amgylch y Maes – o’r 1930au i luniau o Brifwyl y llynedd.  Y gobaith yw y bydd ymwelwyr yn mwynhau’u gweld ac y bydd y rhain yn sbarduno atgof neu stori, ac yna gallwch alw draw i stondin Casgliad y Werin i rannu’ch hanes.

Bydd gennym thema wahanol bob dydd, ac er y byddwn yn annog pobl i rannu straeon am y rhain yn benodol, rydym hefyd yn awyddus i glywed eich hanesion cyffredinol am yr Eisteddfod trwy gydol yr wythnos.

Thema’r dydd Sadwrn cyntaf fydd Trefi’r Eisteddfod – pa dref oedd y lleoliad gorau ar gyfer yr Eisteddfod yn eich barn chi, a pham? Beth sy’n gwneud tref Eisteddfod dda?

Dydd Sul – a ninnau yn ystod penwythnos y teulu - rhannwch eich atgofion am ‘fasgots’ ar Faes yr Eisteddfod!  Mae pawb yn cofio gweld Sam Tân a Superted, ond pwy sy’n cofio Twm Tap a’r dylluan, Rowland?  Rhannwch eich atgofion – a llwythwch eich atgofion am fasgots i wefan Casgliad y Werin.  Fe fyddwn ni hefyd eisiau clywed beth yw eich hoff ‘freebie’ Eisteddfodol erioed!

Seremonїau yw’r thema ddydd Llun – a rydym ni’n chwilio am atgofion pobl go iawn.  Oeddech chi’n eistedd yn agos at Donald Evans yn y Pafiliwn pan enillodd y dybl nol yn 1977?  Oeddech chi’n un o ferched y ddawns flodau?  Lle oeddech chi pan enillodd Mererid Hopwood y Gadair yn 2001?  Gadewch i ni wybod a rhannwch eich atgofion.

Dydd Mawrth, byddwn yn awyddus i glywed gennych chi’r cystadleuwyr – ac nid dim ond y rheini ohonoch sydd wedi cael cyntaf, ail neu drydydd.  A gawsoch chi gamyn y ganrif ddiwethaf gan y Genedlaethol?  A aeth rhywbeth o’i le wrth i chi gystadlu?  Ai chi a fethodd daro’r symbal ar yr adeg iawn a cholli’r wobr i’ch band pres?  Cewch ddod i gyfaddef y cyfan ddydd Mawrth ar y Maes!

Dydd Mercher, gyda Maes B yn dechrau prysuro wrth edrych ymlaen at benwythnos hir o’r gerddoriaeth orau, byddwn yn chwilio am straeon am gigs y gorffennol – ac fe fydd gennym ni un neu ddau o luniau ar y Maes i’ch hatgoffa am y dyddiau gynt.  Fe fyddwn angen eich help i adnabod pawb ynddyn nhw, felly cofiwch alw draw i’r Llwyfannau Perfformio i weld pwy ‘di pwy ac i’n helpu ni i lenwi’r bylchau!

Beth fyddai Maes yr Eisteddfod heb stondinau a stondinwyr? A dyma fydd thema dydd Iau wrth i ni ofyn am eich atgofion chi am y Maes a’i stondinau dros y blynyddoedd.  Byddwn hefyd yn rhoi cyfle i’n stondinwyr ni gael rhannu’u hatgofion am eu hymweliadau lu â’r Eisteddfod.  Beth oedd eich hoff stondin?
Gyda’r wythnos yn tynnu tua’i therfyn, eich atgofion am aros yn yr Eisteddfod fydd yn mynd â’n sylw ddydd Gwener.  Ydych chi’n garafaniwr o fri?  Pryd oedd y tro cyntaf i chi ddod i’r Maes carafanau?  Beth yw’ch atgofion chi o’r maes ieuenctid?  Rydym eisiau clywed eich hanesion doniol a’ch profiadau i gyd!

Ac ar y diwrnod olaf, dim ond un pwnc sy’n gwneud synnwyr, felly fe fyddwn yn hel atgofion am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro – eich uchafbwyntiau chi.  Beth oedd y peth gorau am y ‘Steddfod eleni?  Pa un oedd eich hoff gig?  Fe fyddwn am glywed y cyfan cyn diwedd y dydd.

Os hoffech chi lwytho gwybodaeth cyn yr wythnos, mae’n hawdd.  Ewch i www.casgliadywerincymru.co.uk ac ychwanegu’ch gwybodaeth chi i’r wefan.  Helpwch ni i greu archif genedlaethol i bobl Cymru. 


 


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012