Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Casgliad o raglenni a ffilmiau cynnar S4C i’w cadw yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru

Wed, 27 Jul 11 10:05:00

Mae casgliad pwysig o raglenni a ffilmiau cynnar S4C yn mynd i gael eu cadw ar gyfer y dyfodol yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. 

Cyhoeddodd  S4C ac Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru heddiw eu bod wedi dod i drefniant ynglŷn â’r casgliad o ffilm ac elfennau cysylltiedig sy’n rhan o archif S4C yn ei phencadlys yng Nghaerdydd, gyda'r bwriad o sicrhau dyfodol hirdymor y casgliad.

Mae'r casgliad yn cwmpasu amrywiaeth o raglenni ac elfennau a phrintiau ffilm ac yn gasgliad sy’n adlewyrchu cyfnod eang a genres amrywiol- o gyfres ddogfen dyddiau cynnar S4C Mwynhau’r Pethe, i ffilmiau nodedig fel Hedd Wyn a Solomon a Gaenor a chynyrchiadau animeiddio fel Gogs a Gŵr y Gwyrthiau.

Meddai Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr S4C, 

‘Mae arbenigaeth staff yr Archif wrth drin a thrafod ffilm yn hanfodol ac yn bwysig wrth geisio asesu a diogelu’r casgliad, tra bod lleoli’r casgliad yn Aberystwyth yn sicrhau fod yr Archif hefyd yn gallu cael mynediad i’r deunydd ar gyfer gweithgareddau ymchwil ac addysgiadol.’

Mae Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn gartref i gasgliadau cyfoethog a dihafal o ffilmiau, rhaglenni teledu, fideos, recordiau sain a cherddoriaeth yn ymwneud â Chymru a’r Cymry.  

Meddai Dafydd Pritchard, Rheolwr Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, 

‘Mae’r Archif yn hynod o falch o allu cydweithredu gydag S4C yn y gwaith hwn fydd yn diogelu’r casgliadau i’r dyfodol, ac, yn y pen draw, yn caniatau mynediad ehangach i’r cyhoedd.’


Ymholiadau’r Wasg:
Anwen Pari Jones,  Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru : 01970 632535/07977 287215 anwen.jones@llgc.org.uk neu Mansel Jones, S4C: 029 2074 1451/07889 103743 mansel.jones@s4c.co.uk 

Gwefan: www.archif.com 
Twitter: @agssc 

  

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012