Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Llenorion yn datgelu trysorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn 62 gair yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.

Wed, 27 Jul 11 14:11:00

Mae Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru ymysg 26 o lenorion a 26 cyfieithydd a gydweithiodd ar brosiect i annog pobl i daro golwg wahanol ac anysgolheigaidd ar wrthrychau gwerthfawr yng nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol. 

Bydd canlyniad y prosiect  - sydd yn ffurfio cystadleuaeth Her Gyfieithu Tŷ Cyfieithu Cymru  - yn cael ei ddatgelu, ynghyd ag enillydd yr Her yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ddydd Gwener, 5 Awst am 11.00 y.b.

Mae’r cydweithrediad rhwng sgwenwyr grŵp 26, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd wedi paru 26 o ysgrifenwyr – 13 yn y Gymraeg, 13 yn y Saesneg gyda 26 gwrthrych sydd yng nghasgliad y Llyfrgell.  Bydd bob ymgeisydd wedi ysgrifennu union 26 gair mewn ymateb i’w gwrthrych, gyda’r nôd o adrodd y straeon y tu ôl i’r gwrthwychau ac ysbrydoli pobl i ymweld â’r Llyfrgell (neu wylwyr i’r casgliadau arlein) i weld y trysorau mewn golau gwahanol.  

Parwyd llenorion ar hap gyda’r gwrthrychau – o ffilm am Lloyd George yn cyfarfod Hitler i hunan bortread gan Siani Rhys-James - fe roddwyd chwe wythnos iddynt gyflwyno eu hymateb. 

Ers hynny, mae 26 o gyfieithwyr wedi cyfieithu’r cyfraniadau o’r Gymraeg i’r Saesneg, ac i’r gwrthwyneb – gan ddefnyddio 62 gair ar ei ben. Bydd y darnau yn cael eu harddangos gyda’r “trysor” ar wefan y 26 Trysor www.26treasures.com  ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol.  Bydd y cyfieithiwr gorau’n cael ei wobrwyo gyda ffon Pencerdd Tŷ Cyfieithu Cymru, sydd wedi’i noddi gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Meddai Arwel Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus Llyfrgell Genedlaethol Cymru: “Mae’r prosiect hwn yn yn mynd at galon yr hyn ydyw Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Rydym yn amddiffyn trysorau’r  genedl fel eu bod yn medru ysbrydoli unwaith eto. Mae wedi bod yn bleser.”

Dywedodd Sally Baker, Cyfarwyddwr Gweithredol Tŷ Newydd   “Mae hwn yn brosiect cyffrous iawn i Dŷ Newydd. Gallwn wisgo dwy het ar yr un adeg; Tŷ Newydd, y Ganolfan Ysgrifennu  yn cefnogi ysgrifennu newydd  a Thŷ Cyfieithu Cymru , yn hybu cyfieithiadau llenyddol. Hefyd mae’n bleser medru cydweithio â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Grwp Ysgrifennu 26 a  Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru.”

Ychwanegodd John Simmons, un o sylfaenwyr 26: “ Mae 26 Trysor yn rhyddhau geiriau cywrain a geiriau teimladwy ynglyn â gwrthrychau gwerthfawr. Mae hyn yn rhoi i ni fewnwelediadau annisgwyl a phersonol i gasgliad y llyfrgell.”  



Y Llenorion sy’n Cyfansoddi a’r Cyfieithwyr


Cysylltiadau’r Wasg:
 

Sion Jobbins, Swyddog Marchnata, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: 01970 632902 sion.jobbins@llgc.org.uk 
Anita Holford, Writing Services (aelod o 26 a chyfranwr): 01600 713758 anita@writing-services.co.uuk
John Simmons, sylfaenydd 26 a chyfranwr/trefnydd: 07976916502 johnsimmons@blueyonder.com
Sally Baker, Cyfarwyddwr, Tŷ Newydd, Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol. 01766 522811 post@tynewydd.org 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012