Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Holi Llyfrgellydd

Thu, 11 Aug 11 14:19:00

Eisiau holi cwestiwn a chael ateb awdurdodol sydyn? Os felly, gall diwrnod arbennig #HoliLlyfrgellydd fod o ddefnydd i chi.
 
 Trwy ddydd Iau 25 Awst bydd modd i’r cyhoedd wneud defnydd llawn o wasanaeth holi’r Llyfrgell Genedlaethol trwy ddanfon neges ar ei system Sgwrs Sydyn. Bydd staff Uned Ymholiadau yna yn mynd ati i geisio ateb cwestiynau cyn gynted â bod modd. 
 
 ‘Mae hyn yn arbrawf newydd ar ran y Llyfrgell,’ meddai Nia Dafydd, Rheolwr yr Uned Ymholiadau. ‘Fel arfer, oherwydd rhesymau staffio, cyfyngir y gwasanaeth yma i awr neu ddwy y dydd, ond ein bwriad ar ddydd Iau 25 Awst fydd ymestyn y gwasanaeth unigryw yma ar draws y diwrnod cyfan.’
 
 Gall ymholwyr ofyn unrhyw gwestiwn am gasgliadau’r Llyfrgell gan amrywio o wybodaeth am hanes teulu, hanes lleol, mapiau, llawysgrifau, ffotograffau, darluniau, cardiau post, yr Archif Wleidyddol a phapurau newydd Cymru.   Does ond angen clicio ar eicon ‘Sgwrs Sydyn’ sydd ar dudalen flaen wefan y Llyfrgell a bydd aelod o staff ar gael i sgwrsio.
 
 ‘Mae’r Llyfrgell yn derbyn tua 8,000 o ymholiadau’r flwyddyn. Ymysg y cwestiynau mwyaf poblogaidd yn draddodiadol mae ymholiadau hanes teulu neu hawlfraint atgynhyrchu delweddau ond does byth dau gwestiwn yr un peth,’ ategodd Nia. ‘Rwy’n cofio unwaith i rhywun holi’r Llyfrgell Genedlaethol i awgrymu enw Cymraeg i’w ci!’  
  
 
 Sgwrs Sydyn dydd Iau 25 Awst
 
 Dilynwch ni ar Twitter @LLGCymru #HoliLlyfrgellydd
 
 Am wybodaeth bellach:
 Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902 post@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012