Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Lle maen nhw Nawr?

Thu, 08 Sep 11 08:51:00

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn awyddus i ganfod hanes tair merch ifanc o Sir Drefaldwyn a ymddangosodd mewn ffotograff o’r 1960au.

Tynnwyd llun Jane Brandrich, Nerys Jones Daphne Black mewn gwisg Gymreig ar ddiwrnod glawog yn 1965 gan y ffotograffydd enwog, Geoff Charles. Defnyddir y darlun hyfryd gan y Llyfrgell Genedlaethol yn ei gwaith marchnata ar gyfer eu digwyddiadau Estyn Allan yn y Drenewydd ym misoedd Hydref a Thachwedd. (gweler y ffoto isod)

Hoffai Nia Lewis o Uned Hyrwyddo’r Llyfrgell wybod mwy am y merched a’u gwahodd i rai o’r digwyddiadau a drefnir gan y Llyfrgell yn y Drenewydd.

‘Bob blwyddyn mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gadael Aberystwyth ac yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau mewn tref arall. Y llynedd buom ni yn Wrecsam, eleni, y Drenewydd yw’r dref wadd. Pan ddaethom ar draws y llun annwyl yma o Jane, Nerys a Daphne roedd yn amlwg mai dyma oedd y ddelwedd i’r ddefnyddio ar gyfer ein hymweliad â’r Drenewydd. Hoffem ni gwrdd â’r ‘merched’ ac efallai trefnu i dynnu ffoto newydd ohonynt. Ond y tro yma bydd dim rhaid iddynt wisgo’r wisg draddodiadol!’ meddai Nia, sy’n byw ym Machynlleth.

Esboniodd William Troughton, pennaeth ffotograffau’r Llyfrgell ychydig am hanes y ffotograffydd, Geoff Charles 

‘Cyflwynodd Geoff Charles ei gasgliad anferth o 120,000 delwedd i’r Llyfrgell dros ddegawd yn ôl. Roedd yn tynnu ffotos rhwng yr 1930au ac 1969 gan fwyaf o ardal y Gororau ar gyfer papurau megis y County Times ond hefyd o ddigwyddiadau o bwys cenedlaethol ar gyfer Y Cymro,’ meddai Wil, sydd hefyd yn gyfrifol am guradu arddangosfa o waith y ffotograffydd J.B. Willians yn Ysgol Uwchradd y Drenewydd. 

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau yn y Drenewydd fel rhan o’u hymgyrch i hysbysu’r cyhoedd o’u gwaith. Gan fod cynifer o drigolion y dref yn teithio i Aberystwyth y gobaith yw y bydd nifer ohonynt nawr yn ymweld ag adeilad ac arddangosfeydd ysblennydd y Llyfrgell (sydd am ddim) neu’n dod yno i wneud gwaith ymchwil ar hanes teulu neu unrhyw bwnc arall.

Digwyddiadau a Drefnir gan y Llyfrgell yn y Drenewydd:

10 Hydref – 19 Tachwedd



‘Hen Drenewydd’ / ‘Old Newtown’
Theatr Hafren

10 – 21 Hydref



Ffotos o Sir Drefaldwyn, 1900-1910 gan J.B. Willans
Ysgol Uwchradd y Drenewydd

15 Hydref



Ffair Hanes Teulu a Hanes Lleol
The Monty Club

20 Hydref


 


Ffilm The Last Days of Dolwyn (1948)
Sinema’r Regent, 7.30pm

10 Tachwedd


 


Noson y Llywydd 
Elephant and Castle


 



Gwybodaeth Bellach:
Nia Lewis, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01
970 632534 post@llgc.org.uk


 


 



Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012