Thu, 15 Sep 11 14:23:00
Bydd Dilwyn Phillips, sy’n borthor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a’i wraig Hazel yn cymryd rhan yn y Great North Run www.greatrun.org yn Newcastle yn hwyrach y mis hwn dros Gŵn Clywed i Bobl Fyddar.
Y llynedd rhedodd y pâr yn Marathon Llundain hefyd, gan godi bron i £2,300 ar gyfer yr elusen sy’n hyfforddi cŵn i helpu pobl sy’n hollol neu dra fyddar byw bywydau mwyaf arferol.
Dywedodd Dilwyn eu bod wedi cael eu hysbrydoli i gefnogi’r elusen ar ôl cwrdd â Bertie, Ci Clywed Gill Stevenson, sy’n ddarllenydd rheolaidd yn y Llyfrgell Genedlaethol.
‘Mi drawsnewidiodd fy mywyd ar ôl i mi gael Bertie deuddeg mlynedd yn ôl. Mae’n wych bod Dilwyn a Hazel yn rhedeg i godi arian i’r Elusen,’ meddai Gill, sy’n byw yn Llandre ger Aberystwyth.

Llun: Dilwyn a Hazel Phillips gyda Chi Clywed Bertie a’i dderbynnydd Gill Stevenson