Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Ffotos o’r Stryd – Gŵyl Ffoto Lens 18-19 Tachwedd

Thu, 29 Sep 11 09:44:00

Ffotograffiaeth fydd y gair ar y stryd yn Aberystwyth ym mis Tachwedd - neu, o leiaf yng ngŵyl Lens wrth i ffotograffwyr amlycaf Cymru yn ymgynnull yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 18 a 19 Tachwedd 2011. Byddant yno i roi cyflwyniadau darluniadol o’u gwaith ffotograffig ar y thema Ffotograffiaeth Stryd.

Dyma fydd y seithfed ŵyl Lens ac eleni bydd yn cyd-weithio gyda gŵyl ffotograffiaeth newydd arall i Aberystwyth - FfotoAber. www.ffotoaber.com <http://www.ffotoaber.com>

‘Mae penwythnos Lens wastad yn ddigwyddiad difyr a phleserus i bawb sy’n ymddiddori mewn ffotograffiaeth. Rydym yn llwydd i ddenu ffotograffwyr proffesiynol ac amatur a rheini sydd â diddordeb mewn hanes cymdeithasol. Mae’n siaradwyr blaenorol wedi cynnwys ffotograffwyr byd-enwog fel Phillip Jones-Griffiths a David Hurn. Eleni byddwn ni’n cydweithio a menter ffotograffiaeth gynhyrfus newydd i’r ardal – FfotoAber,’ meddai William Troughton sy’n gyfrifol am gasgliad ffotograffau’r Llyfrgell ac yn un o drefnwyr Lens.


Siaradwyr Gŵyl Lens eleni fydd:

Bedwyr Williams: Mae Bedwyr Williams yn artist cysyniadol sy'n byw a'n gweithio ger Caernarfon. Yn 2005 fe gynrychiolodd Cymru yn Biennale Fenis. Mae ei weithiau wedi eu harddangos mewn casgliadau megis y Saatchi Collection, Government Art Collection a Chasgliad yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

 Jon Pountney: Ganwyd Jon yn Pontrefact yn 1978. Astudiodd ffotograffiaeth yn y Mid Warwickshire College ac yna Gerddi Howard, Caerdydd. Mae nawr yn gweithio yn y Brifddinas fel ffotograffydd masnachol a hysbysebu. Arweiniodd ei gariad at ddiwylliant poblogaidd i’w brosiect diweddaraf, Cardiff before Cardiff.

Tom Wood
: Ganed Tom Wood yn 1951 yng ngorllewin Iwerddon. Fe astudiodd Celf Gain yn Leicester ac yna symudodd i New Brighton, ger Lerpwl yn 1978 ble daeth yn adnabyddus yn lleol fel ‘Photieman’. Am y 25 mlynedd nesaf bu iddo ffotograffu bywyd yng Nglannau Mersi - popeth o glybiau nos i gefnogwyr pêl-droed. Mae wedi arddangos yn Tate Britain, Tate Liverpool a Biennale Shanghai.

Dr Paul O’Leary
: Mae Paul yn uwch-ddarlithydd yn Adran Hanes a Hanes Cymru, Prifysgol Aberystwyth. Ef yw awdur y gyfrol Immigration and Integration: the Irish in Wales, 1798-1922 (2000) a chyd-olygydd A Tolerant Nation? Exploring Ethnic Diversity in Wales (2003). Mae newydd gwblhau llyfr yn dwyn y teitl Claiming the Streets: Processions and Urban Culture in South Wales, c.1830-1880.

Scott Waby: Bu Scott yn ffotograffydd masnachol cyn symud o Wlad yr Haf i weithio ar egin rhaglen ddigido'r Llyfrgell Genedlaethol yn 1999. Mae nawr yn Bennaeth ar yr Uned Ddigido ac wedi gweithio ar amrywiaeth o brosiectau blaengar gan gynnwys digido rhai o gasgliadau ffotograffig pwysicaf y Llyfrgell.


Ffotograffau yn LlGC
Mae casgliad ffotograffau’r <http://www.llgc.org.uk/index.php?id=84&L=1>  Llyfrgell Genedlaethol yn anferth. Mae’n cynnwys rhyw 800,000 darlun gan gynnwys y ffotograff hynaf a dynnwyd yng Nghymru erioed, daguerroteip o Gastell Margam ger Port Talbot. Tynnwyd y llun gan y Parch. Calvert Richard Jones yn 1841.

Lens – Ffotograffiaeth Stryd
18 a 19 Tachwedd 2011
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth SY23 3BU


Tocynnau
Nos Wener yn unig £5. 
Dydd Sadwrn a Nos Wener £22 yn cynnwys cinio.
(£16 NUS/UMCA) Tocynnau ar lein: www.llgc.org.uk/lens

Gwybodaeth bellach:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC:  01970 632 902  post@llgc.org.uk
 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012