Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

HAMDDENA

Tue, 04 Oct 11 10:11:00

Rygbi, eisteddfota, ffilmiau, chwarae gwyddbwyll … sut fyddwch chi’n hamddena? A sut mae amser hamdden y Cymry wedi newid dros y degawdau os nad canrifoedd? Dyna bwnc arddangosfa fawr newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n cael ei hagor yn swyddogol gan y delynores fyd-enwog, Catrin Finch ar nos Fercher 12 Hydref 2011.

‘Mae hamdden yn bwerus oherwydd mae ei gweithgareddau a’i gweithgarwch ym mhob man, yn cyffwrdd â bywyd pob bod dynol. Mae’n rhoi cip olwg i ni ar gymdeithas a sut mae cymdeithas yn newid,’ medd Carys-Mai Lloyd, curadur yr arddangosfa. 

Ymysg y wledd o gasgliadau yn arddangosfa Hamddena mae:

● Casgliad o ffilmiau a hysbyesbion cynnar fyddai'n cael eu dangos mewn sinemau yn ystod hanner cyntaf yr 20fed ganrif

● Ffilmiau mud William Haggar  

● QR codes fydd yn galluogi pobl i ddarganfod mwy o wybodaeth am rai o eitmau'r arddnagosfa drwy eu ffon symudol. 

● Eitemau o archif Y Blew - grwp pop cyntaf yn yr iaith Gymraeg 

● Eitemau o gymdeithasau mwyaf amlwg Cymru - Urdd Gobaith Cymru, Merched y Wawr, Sioe Frenhinol Amaethyddol 

● Ystafell gemau - cyfle i chwarae Gwyddbwyll (ar raddfa fawr), gem OXO, Pedwar mewn Rhes, Solitaire a Dominos

● Darlun eiconig o gasgliad Gogerddan - 'The Gogerddan Hunt' 

● Cyfeiriadau at wyddbwyll yn Breuddwyd Macsen Wledig yn Llyfr Gwyn Rhydderch - un o lawysgrifau enwocaf a phwysicaf y Llyfrgell 

● Detholiad o ffotograffau trawiadol gan y ffotograffydd David Hurn o’r 1970au

● Ffotograffau Chuck Rapoport o gymuned Aberfan yn ymlacio wedi’r drychineb

Ac os fyddwch angen hamddena wrth droedo o gwmpas yr arddangosfa bydd cadeiriau dec i’w cael yn yr Oriel i chi orffwys! 

I fwynhau decholiad o’r delweddau o’r arddangosfa, ewch i dudalen Hamddena. www.llgc.org.uk/index.php;

Cofiwch ddilyn y Llyfrgell ar Twitter @LlGCymru neu Facebook a gallwch ymunwch â'n rhestr bostio yn rhad ac am ddim i dderbyn gwybodaeth am ein rhaglen arddangosfeydd. Ebostiwch post@llgc.org.uk neu cofrestrwch ar-lein i dderbyn ein egylchlythyr rhad ac am ddim. 

Hamddena – Agoriad Swyddogol gyda Catrin Finch
6.30pm nos Fercher 2011
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth

Am fanylion neu ddelweddau pellach:



Sian Henson, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632545 post@llgc.org.uk 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012