Fri, 14 Oct 11 13:52:00
Fel rhan o’i ymgyrch hyrwyddo ar gyfer digwyddiadau’r Drenewydd, fe ddefnyddiodd y Llyfrgell ffoto hyfryd gan Geoff Charles www.myglyw.org.uk/index.php; o dair merch ifanc yn Eisteddfod Genedlaethol y dref yn 1965. Defnyddiwyd y llun mewn posteri, taflenni, hysbysebion a baneri stryd. Ond pwy oedd y tair merch ifanc mewn gwisg Gymreig?
Yn dilyn apêl gyhoeddus, llwyddodd y Llyfrgell i ddod o hyd i’r menywod a’u dod at ei gilydd am aduniad yn Theatr Hafren yn y Drenewydd lle arddangosir y ffoto gwreiddiol ymysg arddangosfa o hen luniau o’r dref.
Y merched yw:
Nerys Jones - Mae Nerys nawr yn byw ym Methel, ger Caernarfon. Bu’n byw yn Llundain, Cheltenham ac Aberystwyth cyn symud i’r Gogledd. O Sir Drefaldwyn daw ei theulu.
Daphne Jones (nee Black) - Mae Daphne yn dal i fyw yn yr ardal ac yn rhedeg busnes y Penllwyn Lodges a Chlwb Golff Lakeside yng Ngarthmyl ger y Drenewydd. Mae’n briod a chanddi tri phlentyn.
Jane Brandrich - Yn ardal y Drenewydd mae Jane yn byw hefyd ac mae hi’n gyfnither i Daphne. Mae hi’n gweithio mewn deintyddfa yn yr ardal.
Ffotos – J.B. Willans, Sganio’ch hen ffotos
Mae ffotograffau’n chwarae rhan fawr yn nigwyddiadau Estyn Allan y Llyfrgell Genedlaethol yn y Drenewydd ym mis Hydref a Thachwedd eleni. Ceir dwy arddangosfa o hen luniau; gwahoddir i’r cyhoedd ddod ag hen luniau i’w sganio ... ac rydym wedi dod o hyd i’r tair merch ifanc yn y ffoto o 1965!
‘Ffotos Coll’ J.B. Willans
Arddangosir hen ffotograffau gan J.B. Willans o Sir Drefaldwyn rhwng 1900-1910 yn Ysgol Uwchradd y Drenewydd.
Tynnwyd y lluniau clir a chymesur hyn gan Willans ac fe’u canfuwyd yn Ysgol Uwchradd y Drenewydd rhai blynyddoedd yn ôl. Wedi hynny fe’u cyflwynwyd i’r Llyfrgell Genedlaethol ac maent yn awr yn rhan o gasgliad y Llyfrgell o dros 800,000 o ffotograffau o Gymru. Yn sgil y ddeufis o weithgareddau ‘Estyn Allan’ y Llyfrgell yn y Drenewydd, arddangosir rhai o’r ffotograffau yma yn yr ysgol rhwng 10 - 21 Hydref.
Serch, does dim rhaid i chi fynd ‘nôl i’r ysgol’, mae nifer o’r ffotograffau wedi eu digido ac meant ar wefan Casgliad y Werin Cymru. Ewch i www.casgliadywerincymru.co.uk i weld os oes unrhyw hen luniau o’ch cartref neu bentref chi. www.casgliadywerincymru.co.uk/Discover/Results/p_1/;
Dewch â’ch Archif a Ffotos i’w Sganio a’u rhoi Ar-lein!
Ar ddydd Sadwrn 15 Hydref yn y Monty Club yn y Drenewydd gwahoddir pobl yr ardal ddod â’u harchifau i Ffair Hanes Teulu a Hanes Lleol arbennig iawn a gydlynir gan y Llyfrgell Genedlaethol a Chasgliad y Werin Cymru.
Mae staff y Llyfrgell a Chasgliad y Werin eisoes wedi cynnal gweithdy i hyfforddi aelodau o gymdeithasau hanes lleol yr ardal ar sut mae sganio a llwytho delweddau ar-lein. Cafwyd trawstoriad da o bobl a chymdeithasau yn y gweithdy yma: Mary Oldham - Llyfrgellydd Gregynog; Bob Hutchingson - Cymdeithas Arwystli; Carrie White a Marilyn Price - Cymdeithas Hanes Lleol Ceri; Martin Wright - Cymdeithas Hanes Lleol Sarn; Clare Martin - Oriel Davies a Frances Robinson - Cyngor Tref Y Trallwng.
Bydd y rhai a fynychodd y gweithdy yma nawr ar gael i roi help llaw wrth ddigido casgliadau a ddaw i’r Ffair Hanes ddydd Sadwrn.
'Credwn ei bod yn bwysig fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chasgliad y Werin Cymru yn trosglwyddo ei sgiliau i gymdeithasau ar draws Cymru fel y gallant hwy wneud y gwaith pwysig o gadw’n hanes a’n hatgofion yn fyw,’ meddai Sioned Rees-Jones ar ran Casgliad y Werin.
‘Hoffem ofyn i bobl ardal y Drenewydd i ddod ag hen ffotograffau neu archifau sy’n ymwneud â’r Drenewydd (neu unrhyw ran arall o Gymru) I’w digido ac o bosib eu llwytho ar wefan www.casgliadywerincymru.co.uk. Gallant gynnwys hen ffotograffau o garnifalau, eisteddfodau, timau pêl-droed, pobl wrth eu gwaith neu’n ymladd etholiad. Gall archifau gynnwys llythyrau diddorol o’r Rhyfel Byd Cyntaf neu daflen neu boster cwmni theatr. Rydym am ddangos amrywiaeth hanes a bywyd Cymru i bobl ar draws y byd a’r Drenewydd fwynhau,’ ychwanegodd Sioned.
Dolenni:
Casgliad y Werin www.casgliadywerin.co.uk
Geoff Charles www.myglyw.org.uk/index.php;
Gwybodaeth Bellach:
Nia Lewis, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632453 nsl@llgc.org.uk