Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Datganoli Darlledu i Gymru? – Darlith Flynyddol yr Archif Wleidyddol

Fri, 28 Oct 11 11:21:00

Sut mae’r berthynas rhwng darlledwyr yng Nghymru a Llundain wedi newid ers Datganoli? A yw hi’n amser i Lywodraeth Cymru gymryd rhagor o gyfrifoldeb dros ddarlledu? Dyma rai o’r cwestiynau bydd Menna Richards, OBE, cyn Gyfarwyddwr BBC Cymru, yn eu codi yn narlith flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig ar nos Wener 4 Tachwedd 2011 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Cyfyd y cwestiwn, a yw’r berthynas rhwng Cymru a Llundain, Caerdydd a San Steffan yn broses o ddatblygu parhaus, neu a ddylem dderbyn geiriau’r Arglwydd Reith, fod Cymru wedi ei ‘setlo’ ddydd Iau diwethaf?

‘O ystyried y berthynas rhwng darlledwyr yng Nghymru a Llundain, hoffwn i ofyn ai nawr yw'r adeg i Lywodraeth Cymru chwarae rhan fwy blaenllaw ym mater atebolrwydd y darlledwyr yng Nghymru?’ meddai Menna Richards.

Bu Menna Richards yn Gyfarwyddwr y BBC yng Nghymru am un mlynedd ar ddeg tan fis Mawrth eleni. Rhwng 2009 a 2011 roedd hi hefyd yn gyfarwyddwr ar y BBC ar draws y Deyrnas Unedig, ac o ganlyniad yn aelod o brif fwrdd gweithredol y Gorfforaeth.

Mae ganddi brofiad helaeth o'r byd darlledu. Bu'n flaenllaw yn arwain rhai 
o'r newidiadau mawr yn y BBC ers datganoli ac mae wedi gweld sut mae 
sefydliad mawr Prydeinig yn ymateb i newidiadau gwleidyddol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae Dr J. Graham Jones, Pennaeth Archif Wleidyddol Gymreig Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn falch iawn i groesawu Menna Richards fel y darlithydd gwadd eleni.

‘Mae’r Archif Wleidyddol Gymreig wedi denu rhai o wleidyddion a haneswyr gwleidyddol pwysicaf Cymru i draddodi’r Ddarlith Flynyddol. Rydym yn falch iawn i groesawu Menna Richards OBE. Bu’n Gyfarwyddwr BBC Cymru ar adeg o newid mawr ym maes datganoli a thechnoleg,’ meddai’r Dr. J. Graham Jones.

Sefydlwyd yr Archif Wleidyddol Gymreig yn 1983. Mae’n casglu llenyddiaeth gan holl bleidiau gwleidyddol Cymru a grwpiau ymgyrchu yn ogystal â gohebiaeth gan rai o’r ffigyrau gwleidyddol mwyaf, o David Lloyd George i wleidyddion heddiw. www.llgc.org.uk/lc/awg_c_awg.htm


Darlith Flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig
‘“I settled Wales last Thursday” – a view from the Frontier of Broadcasting’   
Menna Richards OBE

5.30pm
Gwener, 4 Tachwedd 2011

DRWM
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth




GWYBODAETH BELLACH:  
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg: 01970 632902  sij@llgc.org.uk






Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012