Wed, 02 Nov 11 14:22:00
Siân Lloyd, y gyflwynwraig a’r ddynes tywydd deledu boblogaidd, fydd gwestai arbennig Noson y Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol yn y Drenewydd ar nos Iau 10 Tachwedd 2011.
Bydd Noson y Llywydd yn benllanw ar ddau fis o weithgaredd yn y Drenewydd gan y Llyfrgell Genedlaethol a’i phartneriaid lleol.
Yn ystod y noson bydd Llywydd y Llyfrgell, Yr Arglwydd Dafydd Wigley o Gaernarfon, yn cyflwyno uchafbwyntiau’r gweithgareddau. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyniad byr gan Mrs Davies, Prifathrawes Ysgol Dafydd Llwyd ar y gwaith a wnaethpwyd gan Uned Addysg y Llyfrgell ac artist breswyl y Llyfrgell eleni, Luned Rhys Parri.
Ceir hefyd cyflwyniad ar yr archifau a ddigidwyd gan bobl yr ardal yn y Monty Club gyda chymorth staff Casgliad y Werin Cymru sy’n rhan o’r Llyfrgell. Estynnir croeso arbennig hefyd i’r ‘Dair Merch Ifanc’ a welwyd eu mewn llun a ddefnyddiwyd ar ddeunydd hyrwyddo’r Llyfrgell yn y dre - Daphne Jones, Jane Brandrich a Nerys Jones. Tynnwyd y ffotograff o’r merched gan Geoff Charles adeg Eisteddfod Genedlaethol y Drenewydd yn 1965.
Dydy gwestai gwadd y noson, Siân Lloyd, ddim yn ddieithr i’r Drenewydd chwaith. Er mai yn Llundain y bydd hi’n gweithio gan fwyaf mae ganddi hefyd gartref yn Aberhafesb. Yn ystod yr 1980au bu hefyd yn gweithio i Fwrdd Datblygu Cymru Wledig oedd â phencadlys yn y Drenewydd ac mae wedi cadw ffrindiau yn yr ardal ers y cyfnod hynny.
‘Rwy’n hynod o falch i weithio gyda'r Llyfrgell Genedlaethol yn y Drenewydd. Mae'r Llyfrgell yn drysor unigryw ac rwy wrth fy modd yn ymweld â’r lle gan fwynhau’r adeilad a’r arddangosfeydd yno. Rwy hefyd yn gwerthfawrogi'r gwaith a wneir ganddynt ledled Cymru a thu hwnt. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y noson yn y Drenewydd – mae’n anrhydedd o'r mwyaf cael bod yn rhan o’r noson,’ meddai Siân.
Ymysg uchafbwyntiau’r ddeufis diwethaf yn y Drenewydd bu dangosiad hynod boblogaidd o’r ffilm The Last Days of Dolwyn yn Sinema’r Regent; diwrnod hanes lleol a hanes teulu arbennig o lwyddiannus yn y Monty Club; arddangosfa o hen ffotograffau o Sir Drefaldwyn gan J.B. Willans yn Ysgol Uwchradd y Drenewydd ac arddangosfa arall o hen ffotograffau o’r dre yng nghyntedd Theatr Hafren ar ei newydd wedd.
Mae croeso cynnes i bawb fynychu Noson y Llywydd. Cynhelir y Noson yn nhafarn yr Elephant and Castle yn y Drenewydd am 6.30 p.m. nos Iau 10 Tachwedd a cheir lluniaeth ysgafn yno.
Gofynnir yn garedig i’r rhai hoffai fynychu i archebu eu tocyn am ddim o flaen llaw drwy ffonio Siân Henson yn y Llyfrgell Genedlaethol ar: 01970 632545
Am Wybodaeth Bellach:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902 sion.jobbins@llgc.org.uk