Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Penodi Llywydd Newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Thu, 03 Nov 11 09:56:00

Mae Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, wedi cyhoeddi bod Syr Deian Hopkin wedi'i benodi'n Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Bydd yn dechrau yn y swydd ar 1 Rhagfyr 2011 a bydd yn parhau am 4 blynedd. 

Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: 

"Mae'n bleser gennyf benodi Syr Deian Hopkin yn Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.  Bydd Syr Deian yn cyfrannu profiad helaeth i'r swydd, sy'n amrywio o aelodaeth o Lys a Chyngor y Llyfrgell Genedlaethol i arwain sefydliad addysgol sylweddol.  Rwy'n hyderus y bydd ei sgiliau a'i brofiad yn amhrisiadwy wrth i waith hollbwysig un o'n sefydliadau cenedlaethol barhau i ddatblygu."

Dywedodd Syr Deian Hopkin: 

"Mae cyfrannu at waith hollbwysig y Llyfrgell Genedlaethol fel ei Llywydd yn anrhydedd enfawr, gan mai hwn yw un o'n sefydliadau pwysicaf. Rwy'n edrych ymlaen at ymuno â'm Cyd-Ymddiriedolwyr ac â'r staff i sicrhau bod y Llyfrgell yn parhau i fynd o nerth i nerth.  Rwy'n ddefnyddiwr brwd o'r Llyfrgell ers blynyddoedd lawer ac rwyf wedi bod yn aelod o'i Chyngor, felly rwy'n ymwybodol iawn o'i rôl hollbwysig o fewn bywyd diwylliannol a deallusol Cymru.  Rwy'n gyffrous iawn ynghylch y datblygiadau posibl yn y dyfodol â'r byd digidol gan y gall pobl Cymru a gweddill y byd elwa cymaint arnynt. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at arwain y Llyfrgell dros y blynyddoedd nesaf".
 
Dywedodd Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru: 

"Mae staff y Llyfrgell Genedlaethol yn falch iawn fod Syr Deian Hopkin wedi'i benodi'n Llywydd. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio'n agos ag ef wrth iddo arwain y Llyfrgell i'r dyfodol a hybu ei gwasanaethau, er lles Cymru a'i phobl.”

Cafodd Syr Deian Hopkin ei benodi'n Llywydd ar ôl i'r Arglwydd Wigley o Gaernarfon benderfynu peidio â cheisio cael ei ailbenodi am ail dymor.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Non Jones ar 029 2089 8490 neu Kate James ar 029 2089 8169
Bywgraffiad

Syr Deian Hopkin: 
Deian Hopkin oedd Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr Prifysgol South Bank yn Llundain hyd ei ymddeoliad yn 2009 ar ôl treulio 42 o flynyddoedd ym maes addysg uwch. Ganed Syr Deian Hopkin yn Llanelli, a chafodd ei addysgu yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant a Choleg Llanymddyfri. Enillodd radd mewn Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth a bu'n addysgu yno am 24 o flynyddoedd. Fe'i penodwyd yn Bennaeth yr Adran Addysgu yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd hefyd yn aelod o'r Brifysgol Agored yng Nghymru am flynyddoedd lawer. Fel hanesydd arbeniga yn y mudiad llafur yng Nghymru, ac mae hefyd wedi arbenigo yn y defnydd o dechnolegau digidol o fewn y dyniaethau. Mae wedi bod yn aelod o Gyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac o Gyngor Cynghori Cyffredinol y BBC. Mae hefyd yn ddarlledydd ac yn golofnydd profiadol iawn.  Mae wedi bod yn weithgar iawn ym maes polisi addysg cenedlaethol ers sawl blwyddyn, gan ymwneud â sawl corff gan gynnwys y Cyngor Dysgu a Sgiliau. Mae'n aelod o sawl corff ar hyn o bryd gan gynnwys Prifysgol Cyngor Essex, Cyngor y City and Guilds, y Cyngor ar gyfer Cynorthwyo Academyddion sy'n Ffoaduriaid a bwrdd cynghori Times Higher Education. Mae hefyd yn noddwr neu'n ymddiriedolwr o sawl elusen, gan gynnwys y Sefydliad Ymchwil Hanesyddol. Nid yw'n meddu ar unrhyw benodiad cyhoeddus arall gan Weinidog.


Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012