Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Dadorchuddio Portread Dafydd Wigley

Fri, 02 Dec 11 14:44:00

Dadorchuddiwyd portread o Lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Yr Arglwydd Dafydd Wigley, ar ddydd Gwener 2 Rhagfyr 2011.

Cynrychiolodd Dafydd Wigley sedd Caernarfon am bron i ddeng mlynedd ar hugain yn San Steffan ac yna’r Cynulliad Cenedlaethol. Ymddeolodd fel Llywydd y Llyfrgell wedi ei dymor o bedair blynedd yn y swydd.

Paentiwyd ei bortread gan yr artists Gymreig enwog, David Griffiths. Mae David wedi portreadu rhai o wynebau mwyaf amlwg Prydain dros ei yrfa deugain mlynedd gan gynnwys tri chyn-Lywydd o’r Llyfrgell Genedlaethol.
 
Dadorchuddiwyd y portread mewn seremoni arbennig yn y Llyfrgell pan gyflwynwyd y Siarter Frenhinol i olynydd Dafydd Wigley, Syr Deian Hopkin.
Portread o Dafydd Wigley gan David Griffiths
Peintiwyd y portread mewn olew ar gynfas 40 x 30 modfedd. Mae’n dangos yr Arglwydd Wigley mewn eisteddiad ymlaciol yn dal trydedd gyfrol ei hunangofiant, Maen i’r Wal. Peintiwyd y llun dros gyfnod o chwe mis.

Ymysg portreadau eraill David Griffiths sydd yng nghasgliad y Llyfrgell mae’r cerddorion enwog, Bryn Terfel ac Osian Ellis a’r diweddar Sir Geraint Evans.
 
Magwyd David ym Mhwllheli ac fe’i hyfforddwyd yn ysgol gelf Slade yn Llundain. Death yn amlwg am ei bortread o Dywysog Cymru yn derbyn rhyddid dinas Caerdydd ym mlwyddyn ei arwisgiad yn 1969. Ers hynny mae wedi darlunio gwleidyddion, clerigwyr a mabolgampwyr amlwg gan gynnwys Enoch Powell, Archesgob Cymru Barry Morgan a’r chwaraewr rygbi, Barry John. Dadorchuddiwyd dau bortread pwysig arall o’i waith yn gynharach eleni; portreadau o gyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan. Cedwir un yn adeilad y Pierhead yng Nghaerdydd a’r llall yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Mae David bellach yn byw yn ardal y Rhâth yng Nghaerdydd.

Dywedodd David

‘Bu Dafydd Wigley yn wrthrych hynod ddiddorol i mi erioed. Rwy wedi ei adnabod ers yr 1960au ac wedi dilyn ei yrfa wleidyddol â diddordeb mawr.’

Bu’r Arglwydd Wigley yn AS ac yna AC dros Gaernarfon o 1974 hyd at 2003. Bu’n arweinydd Plaid Cymru o 1991 hyd at 2000. Cyhoeddwyd y llynedd y byddai’n cael ei ddyrchafu’n farchog gan y Frenhines a chymerodd ei sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi o dan yr enw Barwn Wigley o Gaernarfon ym mis Ionawr 2011. Mae ganddo yrfa hir o ymgyrchu ar faterion yn ymwneud ag anabledd gan lobio i sicrhau fod mynediad rhwydd i bobl anabl i fannau pleidleisio yn cael ei chynnwys yn y Mesur Anabledd. Gyda’i gyd aelodau ym Mhlaid Cymru bu hefyd yn ymgyrchu dros setliad iawndal i lowyr oedd yn dioddef o afiechyd yr ysgyfaint a dros Ddeddf Iaith Gymraeg 1993.

Olynir Dafydd Wigley fel Llywydd gan Syr Deian Hopkin, hanesydd a chyn darlithydd yn y Brifysgol yn Aberystwyth a fu, tan ei ymddeoliad, yn Dirprwy Ganghellor Prifysgol South Bank Llundain.

Dangosir y portread yn Ystafell Cyngor y Llyfrgell yn Aberystwyth lle bydd yn dilyn portreadau o gyn Lywyddion eraill y Llyfrgell Genedlaethol. 


Gwybodaeth Bellach:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902 sion.jobbins@llgc.org.uk



Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012