Thu, 05 Jan 12 14:15:00
Oherwydd gwyntoedd cryfion y bore ‘ma bu’n rhaid galw’r Brigâd Dân a’r Heddlu i asesu sefylldfa diogelwch y to yn y Trydydd Adeilad yng nghefn yr adeiladu. Nid oes mynediad i’r cyhoedd i’r Trydydd Adeilad fel rheol gan mai ardal swyddfeydd a chasgliadau y Llyfrgell a geir yno.
Achoswyd difrod i’r to yn y Trydydd Adeilad gan y gwynt. Mae’r to bellach wedi ei ddiogeli.
Bu y Llyfrgell ar gau i’r cyhoedd am beth amser bore yma ond bellach codwyd y gwaharddiad ar adael a mynychu’r adeilad. Mae croeso i’r cyhoedd a staff adael a dod mewn i’r adeilad, serch cyfyngir mynediad i’r Trydydd Adeilad.
Gwnaethpwyd gwaith ychwanegol i sicrhau diogelwch casgliadau’r Llyfrgell yn y rhan yna o’r adeilad.