Mon, 16 Jul 07 09:58:00
Mae Geirlyer Kyrnẁeig (Llsgr. Llanstephan 84), geiriadur Cernyweg gan y Cymro amryddawn, Edward Lhuyd, bellach wedi ei ddigido.
Ym 1702 treuliodd Lhuyd oddeutu 4 mis yng Nghernyw yn teithio o blwyf i blwyf er mwyn casglu deunydd ar gyfer y Geirlyer Kyrnẁeig. Yn ystod yr amser hwn bu'n siarad â brodorion yr ardal gan gofnodi eu geirfaoedd mewn nodlyfr. Dyna yn ei hanfod yw cynnwys y Geirlyer Kyrnẁeig, sef geirfa Gernyweg gydag ystyron cyfatebol yn y Saesneg.
Nodlyfr bychan o ran maint yw'r Geirlyer Kyrnẁeig yn 172 o dudalennau, gyda'r eirfa yn llenwi 162 ohonynt. Cafodd ei ysgrifennu yn llaw Lhuyd mewn inc du a choch a ceir nifer fawr o gywiriadau ynddo gydag amryw o eiriau wedi'u croesi allan.
Ganed Edward Lhuyd (Llwyd) ym 1660 ac fe'i addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Croesoswallt cyn iddo fynd i astudio'r gyfraith yng Ngholeg Iesu, Rhydychen ym 1682. Roedd gan Lhuyd ddiddordeb mawr mewn hynafiaethau, llysieueg a daeareg. Bu farw’n ddisymwth yn 1709.
Ceir dwy lawysgrif Gernyweg bwysig arall yn y Llyfrgell Genedlaethol, sef:
Beunans Meriasek, drama mewn Cernyweg Canol a ysgrifennwyd ym 1504 (llsgr. Peniarth 105) a Beunans Ke, copi o ail hanner yr 16eg ganrif o ddrama wedi ei seilio ar fuchedd Ke Sant (llsgr. NLW 23849D). Gellir prynu copi o Beunans Ke wedi ei chyhoeddi ar y cyd rhwng Gwasg Prifysgol Caerwysg a’r Llyfrgell Genedlaethol o siop y Llyfrgell yn Aberystwyth neu arlein siop.llgc.org.uk
Dolenni:
Geirlyer Kyrnẁeig
Beunans Mariasek
Beunans Ke
Datganiad am Lyfr Bewnans Ke
Gwybodaeth Bellach:
Siôn Jobbins: 01970 632 902 sij@llgc.org.uk