Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Gwaith Celf Luned Rhys Parri a disgyblion Ysgol Dafydd Llwyd, y Drenewydd yn LlGC

Tue, 17 Jan 12 09:33:00

O hyn tan ddiwedd Ebrill, bydd coridor Hafan yn y Llyfrgell Genedlaethol yn llawn o waith celf  dau- a thri-dimensiwn gan ddisgyblion Ysgol Dafydd  Llwyd, y Drenewydd, Powys.  Mae’r gwaith i gyd yn seiliedig ar gasgliad hynod y Llyfrgell o ffotograffau’r diweddar Geoff Charles, yn enwedig  y lluniau bythgofiadwy a dynnodd o drigolion  Capel Celyn yng Nghwm Tryweryn, pan orfodwyd hwy i adael eu cartrefi yn y chwedegau.



Cymharol Seisnig yw cefndir teuluol llawer o’r plant yn Ysgol Dafydd Llwyd. Drwy’r prosiect hwn y daethant i wybod gyntaf am  natur a hanes y gymdeithas oedd yma yng nghanolbarth Cymru, mor ddiweddar â chwedegau’r ganrif ddiwethaf.  



I gyd-fynd â’r arddangosfa, mae fideo rhagorol wedi ei baratoi gan Meic Jones, sy’n dangos y plant wrth eu gwaith dan arweiniad yr artist Luned Rhys Parri. Sylwir  bod  y darnau o frethyn, hyd yn oed,  a ddefnyddiwyd i wisgo’r ffigurau yng ngwaith y plant yn efelychu’r dillad a wisgir gan rai o’r bobl yn ffotograffau Charles. 



Ochr yn ochr ag arddangosfa Ysgol Dafydd Llwyd, yn Ystafell Hafan yn y Llyfrgell dangosir gweithiau personol nodedig gan Luned Rhys Parri ei hunan ar yr un thema.



Noddwyd y prosiect hwn ar y cyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol, a bydd yr arddangosfa yn y Llyfrgell yn parhau tan ddiwedd Ebrill 2012.



Roedd Rhodri Morgan, o wasanaeth addysg y Llyfrgell Genedlaethol yn falch iawn i gydweithio gyda Luned.



‘Roedd cynllun Artist Preswyl 2011, dan arweiniad Luned Rhys Parri, yn gyfle gwych i’r Llyfrgell Genedlaethol weithio law yn llaw gydag un o arlunwyr mwayf blaenllaw Cymru i hyrwyddo casgliad hynod y ffotograffydd Geoff Charles. Bu’r casgliad yn adnodd gwych i addysgu disgyblion Ysgol Dafydd Llwyd, Drenewydd, am rhai o ddigwyddiadau pwysicaf Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif, ac mae’r gwaith 3D sydd i’w weld yn yr arddangosfa yn gofnod trawiadol  o lwyddiant y rhaglen,’ meddai Rhodri Morgan. 


 




 



I sylw golygyddion:
Y ddelwedd a atodir yw un o’r gweithiau personol a arddangosir gan Luned Rhys Parri


Am ragor o wybodaeth, cysyllter â:
Rhodri Morgan ar  rhm@llgc.org.uk  
Luned Rhys Parri ar lunedrhysparri@btinternet.com  ( Ffôn: 01286 831780)
Ysgol Dafydd Llwyd ar swyddfa@dafyddllwyd.powys.sch.uk  (Ffôn: 01686 622162) 


Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012