Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Cymru 1914-18: Y Rhyfel Mawr a’r profiad Cymreig

Wed, 08 Feb 12 11:37:00


#CymruWW1



Rhoi Hanes Cymru a’r Rhyfel Mawr Ar-lein



Mae prosiect a arweinir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â llyfrgelloedd, casgliadau arbennig ac archifau Cymru wedi derbyn £500,000 gan y Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth, JISC (Joint Information Systems Committee) i ddigido ar raddfa enfawr, ffynonellau gwreiddiol yn ymwneud â’r Rhyfel Mawr.



Bydd y prosiect yn creu casgliad digidol unigryw a digymar o hanes cudd y Rhyfel Byd Cyntaf a sut y bu iddo effeithio ar holl fywyd Cymru, ei hiaith a’i diwylliant. Bydd y prosiect yn digido ffynonellau printiedig a llawysgrifol yn ogystal â deunydd ffilm, sain a ffotograffau.  Mae’r ffynonellau yma, ar hyn o’r bryd, ar wasgar ac yn aml yn anghyraeddadwy, ond gyda’i gilydd byddant yn creu adnodd unigryw a hanfodol i ymchwilwyr, myfyrwyr a phobl Cymru a thu hwnt. Bydd y casgliad digidol ar gael ar wefan fydd â theclyn cyfieithu er mwyn i’r di-Gymraeg ddeall ysgrifau yn y Gymraeg.
‘Bydd y wefan yn adnodd amhrisiadwy ar gyfer dysgu, ymchwil a chofio a bydd ar gael ar-lein mewn pryd ar gyfer canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel,’ meddai Andrew Green, Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol. ‘Mae hwn yn enghraifft wych o gydweithio ar draws llyfrgelloedd, archifau a chasgliadau arbennig Cymru i gyflwyno’r hanesion unigryw hyn i’r gynulleidfa ehangaf posibl, drwy eu digido.’



Datblygwyd y prosiect gan Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF). Daw’r casgliadau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru; Casgliadau Arbennig Prifysgol Aberystwyth; Casgliadau Arbennig Prifysgol Bangor; Casgliadau Arbennig Prifysgol y Drindod Dewi Sant; Prifysgol Abertawe; Llyfrgell Prifysgol Caerdydd; Archifau BBC Cymru Wales ac archifau lleol sy’n aelodau o Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru (ARCW). Bydd Casgliad y Werin Cymru yn casglu’r cynnwys a gynhyrchir gan gymunedau, haneswyr lleol a haneswyr teulu. Byddant hefyd yn digido eitemau o gasgliadau personol wrth deithio ar draws Cymru yn digido deunydd o bwys. Drwy wneud hyn byddant yn ychwanegu a chryfhau casgliadau’r partneriaid Addysg Uwch gan greu casgliad digidol cyflawn, unedig, i gynrychioli profiad y genedl Gymreig yn ystod y Rhyfel Mawr.



Mae’r cynnwys sydd i’w ddigido wedi ei ddethol mewn cydweithrediad ag academyddion Cymru a thu hwnt, a bydd gwaddol digidol y prosiect yn arwain at ymchwil newydd am Gymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf.



Dywedodd Paola Marchionni, Rheolwr Prosiect JISC, ‘Drwy ddigido a chydweithio bydd y prosiect hwn yn dod a chasgliad rhyfeddol o archifau ynghŷd i un lle. Mae’n addo bod yn ganolfan bwysig ar gyfer ymchwilwyr neu fyfyrwyr sydd am edrych ar brofiad Cymru a’r Rhyfel Mawr. Rydym yn falch iawn i gefnogi’r prosiect yma sy’n cyd-fynd â nifer o brosiectau eraill a ariennir gan JISC sy’n ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf yn ogystal â gweithgareddau cofio yng Nghymru, Prydain ac yn rhyngwladol.’ JISC yw consortiwm technolegol ar gyfer addysg uwch a phellach.



Cost y prosiect digido yma fydd £987,916. Daw £500,000 o’r gyllideb raglen cynnwys JISC ar gyfer 2011-13. Codir gweddill yr arian drwy gyfraniad sefydliadol bunt am bunt partneriaid y prosiect.



Mae’r prosiect yn cychwyn ym mis Chwefror 2012 a lansir yr adnoddau ar-lein ym Mehefin 2013.



Jisc content programme

Jisc ww1 commemoration activities


Blog





 


 




 


Gwybodaeth Bellach:
Lorna Hughes, Cadair Casgliadau Digidol Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: lorna.hughes@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012