Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

£2.2m i helpu’r diwydiannau creadigol i ddefnyddio treftadaeth ddiwylliannol ddigidol Cymru

Thu, 23 Feb 12 11:24:00

Heddiw [22.02.12], cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies, fenter £2.2m newydd i helpu busnesau yn y diwydiannau creadigol i ddefnyddio casgliad digidol unigryw o dreftadaeth ddiwylliannol i hybu arloesedd a'u gwneud yn fwy cystadleuol.

Dan arweiniad y Llyfrgell Genedlaethol, nod y cynllun Digido ar gyfer Busnes yw rhoi gwasanaeth wedi’i deilwra i gwmnïau yn y Gorllewin a’r Cymoedd i’w helpu i gael mynediad i’r casgliad mwyaf o dreftadaeth ddiwylliannol ddigidol ddwyieithog ynglŷn â Chymru.

Mae casgliadau’r Llyfrgell yn cynnwys llyfrau, llawysgrifau, archifau, mapiau, lluniau a ffotograffau, ynghyd â ffilmiau, cerddoriaeth a chyfnodolion – gyda llawer ohono’n cael ei ddarparu’n ddigidol, gan gynnwys dros 2 miliwn o dudalennau papurau newydd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. 

Bydd busnesau Cymru, yn enwedig SMEs yn y byd teledu, cerddoriaeth, ffilm a’r cyfryngau newydd, yn cael hyfforddiant gan arbenigwyr digido i ffrwyno’r cynnwys digidol hwn er mwyn ceisio datblygu cynnyrch, gwasanaethau a thechnolegau newydd a allai, yn eu tro, eu helpu i ennill contractau newydd. Bydd cymorth hefyd i gwmnïau ym maes hanes teuluol/hel achau ac ym maes cyfieithu, yn ogystal ag artistiaid a’r diwydiannau crefft a allai elwa ar fynediad i ddyluniadau crochenwaith a thecstiliau.

Caiff y cynllun pedair blynedd ei gefnogi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, ynghyd ag adnoddau’r Llyfrgell.

Dywedodd Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd,

‘Bydd cefnogi busnesau i ddatblygu cyfleoedd newydd gan ddefnyddio cynnwys digidol yn ysgogi twf yn y sector cyffrous hwn. Rwy’n falch ein bod ni wedi gallu buddsoddi arian yr UE yn y fenter hon a fydd yn helpu cwmnïau i addasu ac ymateb i’r cyfleoedd drwy ddigido er mwyn llwyddo’n fasnachol.

‘Mae Cyflawni Cymru Ddigidol yn amlinellu’n hamcan i wneud Cymru’n wlad wirioneddol ddigidol lle gall pawb gael mynediad i dechnolegau a gwybodaeth ddigidol, a dysgu sgiliau i fanteisio arnyn nhw.’

Drwy’r gwasanaeth Digido ar gyfer Busnes, bydd cyngor a gwybodaeth arbenigol ar gael ar amrywiaeth o faterion, o hawlfraint a thrwyddedu, i gipio digidol, storio a chadwraeth digidol, i chwilio drwy’r adnoddau presennol. Caiff gwybodaeth ei lledaenu drwy ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi. Disgwylir y bydd clwstwr o gwmnïau’n cael ei sefydlu drwy’r gweithgarwch hwn i gydweithio ar brosiectau a rhannu arbenigedd i helpu i ennill contractau pellach.

Ymysg y gweithgareddau a allai ddigwydd drwy’r cynllun, mae datblygu rhaglenni i hwyluso mynediad i gynnwys fel papurau newydd hanesyddol a’i gwneud yn haws i ymchwilwyr a newyddiadurwyr ddefnyddio data sydd newydd ei ddigido i greu rhaglenni teledu a radio.

Dywedodd y Llyfrgellydd Andrew Green,‘Mae arwyddocâd a gwerth diwylliannol anferthol i gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol. Maen nhw hefyd ganddyn nhw botensial economaidd sylweddol. Bydd y cynllun Digido ar gyfer Busnes yn ein galluogi i gynnig gwasanaeth penodedig i gwmnïau yn yr ardal Gydgyfeirio, gan eu helpu i fanteisio ar ein harbenigedd ym maes digido. Bydd hyn yn ei dro yn eu gwneud nhw’n fwy cystadleuol yn lleol ac yn fyd-eang, gyda’r fantais ychwanegol o’i gwneud yn haws i bawb gael mynediad i gasgliadau cenedlaethol y Llyfrgell.’

Dolenni


Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO)

Llywodraeth Cymru



Gwybodaeth Bellach
Gall busnesau sydd â diddordeb mewn cael mwy o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael drwy’r cynllun gysylltu â:
David Michael ar 01970 632855 neu Pedr ap Llwyd ar 01970 632952

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012