Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Athro Aled Jones - Is-lywydd newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Thu, 12 Apr 12 17:27:00

Yr Athro Aled Jones: Proffil (cyswllt allanol)


Mae’r Athro Aled Jones wedi cael ei benodi yn Is-lywydd newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd cyfnod yr Athro Jones yn y swydd yn dechrau ar 1 Mai 2012 a bydd yn para am bedair blynedd. 


Nid swydd llawn amser yw hon. Bydd yr Athro Jones yn parhau i weithio'n llawn amser i Brifysgol Aberystwyth. 


Yr Athro Aled Jones. Llun gan Prifysgol AberystwythFel yr Is-lywydd bydd yr Athro Jones yn hyrwyddo’r Llyfrgell a’i gwaith, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. Bydd hefyd yn cynrychioli’r Llyfrgell wrth drafod â Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.


Efallai bydd yr Athro Jones hefyd yn ymgymryd â swyddogaethau Llywydd y Llyfrgell os bydd angen. 


Yr Athro Jones yw Dirprwy Is-Ganghellor Hŷn Prifysgol Aberystwyth ac mae’n arbenigo yn hanes y Gymru fodern. Mae wedi gweithio’n helaeth ym maes y casgliadau yn y Llyfrgell Genedlaethol er 1976, ac ymunodd â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn 2009. Nid yw’n dal unrhyw benodiadau cyhoeddus Gweinidogol arall.


Dywedodd yr Athro Jones, “Mae cael fy mhenodi i swydd Is-lywydd y Llyfrgell Genedlaethol yn bleser, yn anrhydedd ac yn gyfrifoldeb mawr. Fel defnyddiwr brwd y gwasanaethau gwych mae’r Llyfrgell yn eu darparu, dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain, rwy’n ymwybodol o bwysigrwydd y sefydliad hwn i ddiwylliant Cymru a’r bywyd Cymreig yn gyffredinol. Ar yr un pryd, rwy’n ystyried y Llyfrgell fel ffenestr sy’n ein galluogi ni i gael cipolwg ar amrywiaeth ehangach o wybodaeth o ledled y byd, ac i ymddiddori yn yr wybodaeth honno. Edrychaf ymlaen gyda’r brwdfrydedd mwyaf at y gwaith o gefnogi cenhadaeth y Llyfrgell, ac i weithio’n agos gyda staff a defnyddwyr y Llyfrgell, Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a Syr Deian Hopkin, y Llywydd newydd,.”


Dywedodd Syr Deian Hopkin, Llywydd y Llyfrgell: “Rwyf wrth fy modd bod yr Athro Aled Jones wedi cael ei benodi yn Is-lywydd. Mae’n hanesydd uchel ei barch sydd â phrofiad cyfoethog o reoli mewn prifysgol ac mae’n hynod o ymroddedig i’r Llyfrgell. Edrychaf ymlaen at weithio’n agos gydag ef ac aelodau eraill o’r Bwrdd i gefnogi’r Llyfrgellydd a’r staff i wireddu uchelgeisiau’r Llyfrgell.”


Mae penodiad yr Athro Aled Jones yn dilyn cyfnod Mr Arwel Ellis Owen fel Is-lywydd, a ddaeth i ben ar 30 Tachwedd 2011. 


Gwybodaeth Bellach:


Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902  post@llgc.org.uk 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012