Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Lansio PATLIB Cymru y Canolbarth

Tue, 17 Apr 12 14:52:00

Caiff Diwrnod Eiddo Deallusol y Byd ei ddathlu yn Aberystwyth ar Ebrill 26 gyda chwrs hyfforddi gan PATLIB Cymru ar gyfer cwmnïau lleol sy’n awyddus i ddysgu mwy am sut i adnabod, amddiffyn a manteisio ar eu Hawliau Eiddo Deallusol. PATLIB Cymru yw canolfan wybodaeth Llywodraeth Cymru ar Eiddo Deallusol, rhan o rwydwaith PATLIB Ewrop gyfan.

Yn ystod y dydd caiff Canolfan Allgymorth newydd PATLIB Cymru ei hagor wrth i Lywodraeth Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ymuno i gynnig gwasanaeth PATLIB yn y canolbarth.

Cafodd y ganolfan PATLIB Cymru gyntaf ei hagor llynedd yng Nghyffordd Llandudno a bydd y Ganolfan Allgymorth newydd yn y canolbarth yn cefnogi gwaith y ganolfan hon a helpu i wneud y gorau o syniadau Cymreig.
Dywedodd Edwina Hart AC, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth:
‘Mae hwn yn brosiect pwysig a bydd yn hybu syniadau Cymreig gan sicrhau bod busnesau a dyfeiswyr yn cael canllaw i’w cefnogi nhw.

‘Drwy gydweithio gall y Llyfrgell Genedlaethol a Llywodraeth Cymru gynnig gwasanaeth gwerthfawr yn y canolbarth. Rwy’n gobeithio nawr y bydd unigolion a busnesau yn manteisio ar y gwasanaeth hwn drwy droi at y gefnogaeth a’r canllaw sydd ar gael iddynt.’

Caiff cymorthfeydd misol eu cynnal yn y Bont, man cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Caiff y gymhorthfa  gyntaf ei chynnal ar 10 Mai 2012 yn y Llyfrgell Genedlaethol. Caiff sesiynau pellach eu cynnal yn y Bont ar 7 Mehefin ac un arall yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 5 Gorffennaf 2012.

Ychwanegodd Andrew Green, Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru:

‘Mae Eiddo Deallusol yn gymhleth a chostus ond yn bwysig iawn i arloesed a thyfiant yng Nghymru. Bydd busnesau nawr yn gallu troi at y gwasanaeth hwn ar gyfer cymorth a chanllaw ac edrychwn ymlaen at gynnal y gymhorthfa Eiddo Deallusol cyntaf yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 10 Mai.’

Bydd y Ganolfan Allgymorth newydd yn darparu mynediad i wybodaeth ar Eiddo Deallusol ac yn cynnig:
•    Gwasanaeth ymholiadau am ddim
•    Mynediad i gronfeydd data Eiddo Deallusol ar-lein am ddim
•    Deunydd ar wahanol agweddau Eiddo Deallusol
•    Canllaw ar chwilio patent ar gyfer y rheini sy’n ansicr ble i ddechrau

Rhan o’r Prosiect Arloesi ar gyfer Busnes yw PATLIB a gaiff ei gyllido gan Ewrop.


Os hoffech fynychu’r diwrnod hyfforddi ar Ebrill 26 yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth, cofrestrwch drwy gysylltu â Llinell Gyswllt Gwybodaeth i Fusnesau Llywodraeth Cymru ar 03000 6 03000 neu drwy e-bostio businesssupport@wales.gsi.gov.uk.






 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012