Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Cymhorthfa Eiddo Deallusol i’w chynnal yn y Llyfrgell Genedlaethol

Thu, 03 May 12 14:13:00

Fis yma bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal cymhorthfa eiddo deallusol am ddim i egin entrepreneuriaid a chwmnïau lleol sy’n awyddus i ddysgu mwy am sut i adnabod, amddiffyn a manteisio ar eu Hawliau Eiddo Deallusol.



Bydd cymorthfeydd misol, y cyntaf ar 10 Mai, yn cael eu cynnal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Y Bont, man cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth. Trefnir hwy gan Ganolfan Allgymorth PATLIB Cymru, menter i hwyluso mynediad at wybodaeth ar eiddo deallusol a lansiwyd ar 26 Ebrill.
Mae’r Ganolfan hefyd yn darparu:




•    Gwasanaeth ymholiadau am ddim
•    Mynediad am ddim i gronfeydd data ar-lein
•    Llenyddiaeth ar wahanol agweddau o Eiddo Deallusol
•    Arweiniad ar chwilio patentau ar gyfer rheini nad ydynt yn siwr ble i ddechrau
Dywedodd Andrew Green, Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru:

‘Mae Eiddo Deallusol yn gymhleth a chostus ond yn bwysig iawn i arloesed a thyfiant yng Nghymru. Bydd busnesau nawr yn gallu troi at y gwasanaeth hwn ar gyfer cymorth a chanllaw ac edrychwn ymlaen at gynnal y gymhorthfa Eiddo Deallusol cyntaf yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 10 Mai.’
Ychwanegodd Edwina Hart AC, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth:

‘Mae hwn yn brosiect pwysig a bydd yn hybu syniadau Cymreig gan sicrhau bod busnesau a dyfeiswyr yn cael canllaw i’w cefnogi nhw.

‘Drwy gydweithio gall y Llyfrgell Genedlaethol a Llywodraeth Cymru gynnig gwasanaeth gwerthfawr yn y canolbarth. Rwy’n gobeithio nawr y bydd unigolion a busnesau yn manteisio ar y gwasanaeth hwn drwy droi at y gefnogaeth a’r canllaw sydd ar gael iddynt.’

Caiff cymorthfeydd pellach eu cynnal yn y Bont ar 7 Mehefin ac yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 5 Gorffennaf.Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu Cymorthfa Eiddo Deallusol, gallwch ffonio 03000 6 03000 i gadw eich lle.

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012