Tue, 08 May 12 12:24:00
Bydd y fflam Olympaidd yn ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol ar fore Llun 28 Mai. I ddathlu’r achlysur hanesyddol yma bydd y Llyfrgell yn croesawu’r fflam gyda derbyniad o 6 torch o gemau Olympaidd y gorffennol.
Hoffai’r Llyfrgell Genedlaethol gynnig yr anrhydedd o ddal dau o’r ffaglau yma i bobl ardal Aberystwyth. Caiff yr anrhydedd ei roi i un dyn ac un ddynes gall esbonio mewn 12 gair cwta pam mai nhw ddylai’r Llyfrgell ddewis. Gall bobl enwebu ei hunain neu eraill a dylid danfon y 12 gair neu lai i Uned Hyrwyddo’r Llyfrgell neu at post@llgc.org.uk erbyn canol dydd Gwener 18 Mai.Mae’r chwe torch wedi eu defnyddio mewn yn gemau Olympaidd ac mae tri ohonynt i’w gweld yn arddangosfa Olympaidd, Dilyn y Fflam yn y Llyfrgell.
Mae’r ffaglau’n cynnwys rhai o gemau: Munich 1972, Atlanta 1996 (y ffagl a ddefnyddiwyd gan Mohammed Ali i danio’r pair) a Llundain 1948 (y tro diwetha’ i’r gemau fod yn Llundain). Yn ôl yr amserlen mae disgwyl i’r fflam gyrraedd y Llyfrgell toc cyn 9.00am ar fore Llun 28 Mai. Caiff ei gario i fyny’r grisiau urddasol sy’n arwain at yr hen brif fynedfa. Delir y chwe ffagl naill ochr i’r rhedwr wrth iddo ddringo’r grisiau blaen lle bydd yna’n pasio’r fflam ymlaen i redwr arall.
Mewn cyd-ddigwyddiad hyfryd, mae cymesuredd Llyfrgell Genedlaethol Cymru'r un peth â’r Parthenon yn Athen. Bwriad y pensaer, Sydney Kyffin Greenslade, oedd y byddai’r adeilad carreg Portland gwyn sy’n edrych dros Aberystwyth yn adleisio’r deml glasurol sy’n edrych dros Athen.Delir y pedair ffagl arall gan ddau o staff y Llyfrgell Genedlaethol (dyn a dynes) a myfyriwr a myfyrwraig o Goleg Ceredigion. Gwobrwy-yd y Coleg â Marc Ysbrydoli’r Olympiad Diwylliannol am ei ffilm fer, Precious Life. Cynhyrchwyd y ffilm gan y myfyrwyr gan ddefnyddio ffilmiau yn Archif Sgrin a Sain Genedlaethol Cymru sy’n rhan o’r Llyfrgell.
Yn ystod y dydd bydd Cafe Pen Dinas y Llyfrgell ar agor ar gyfer brecwast o 8.00am ymlaen. Bydd hefyd dwy sgwrs oriel o arddangosfa, Dilyn y Fflam, gan guradur yr arddangosfa, Phil Cope am 10.00am a 2.00pm.
‘Hoffem rannu’r ymweliad hanesyddol a llon y Fflam Olympaidd â’r Llyfrgell Genedlaethol gyda phobl ardal Aberystwyth. Bydd dal ffagl sydd wedi bod mewn gemau Olympaidd y gorffennol yn ddolen hyfryd rhwng y Llyfrgell, Aberystwyth a hanes,’ meddai Andrew Green, Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol.
Gwybodaeth bellach:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902 post@llgc.org.uk