Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Digwyddiad Panel JISC

Fri, 18 May 12 16:04:00

Bydd grŵp o swyddogion rhaglen o’r  Cyd-bwyllgor Systemau Gwybodaeth (JISC) yn ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar Mai 22ain, a byddant yn cynnal sesiwn agored yn Siambr y Cyngor yn LlGC o 11:00 hyd 12:30. Os hoffech fynychu’r sesiwn, rhowch wybod drwy gyfrwng e-bost (lorna.hughes@llgc.org.uk).


----------------------------
Mai 22ain 2012, 11:00-12:30
Siambr y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Digwyddiad Panel JISC: staff o JISC, yn cynnwys,  Andrew Mcgregor, Liam Earney, Neil Jacobs, Sarah Fahmy, Matthew Dovey, Neil Grindley, a Rachel Bruce (y cyfranogwyr terfynol i’w cadarnhau).

JISC (y Cyd-bwyllgor Systemau Gwybodaeth) yw arbenigwyr y DU ar dechnolegau gwybodaeth a digidol ar gyfer addysg ac ymchwil. Bydd grŵp o uwch aelodau staff o ystod raglenni JISC yn cynnal seminar a sesiwn drafod ar gyfer y sector Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru  yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bydd themâu strategol gan gynnwys y testunau canlynol yn cael eu trafod:

- Seilwaith Seiliedig ar Ddata – ailddefnyddio gwybodaeth ar draws gwasanaethau a systemau i gynnal seilwaith gwasanaeth mwy hyblyg ac ystwyth – gall enghreifftiau gynnwys Sylfaen Wybodaeth +, cofrestrfeydd cadwraeth, gwasanaethau darganfod ayyb;

- Seilwaith a rennir – mae meysydd seilwaith a rennir yn canolbwyntio ar ddata ymchwil, seilwaith gwybodaeth a llyfrgell, rheolaeth ymchwil / ystorfeydd.

- Bydd pynciau penodol a drafodir yn cynnwys: darganfod; digideiddio, OER, mynediad agored;  systemau rheoli llyfrgell; archifo ar y we; cyfrifiaduro symudol.


Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012