Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Llyfr newydd sy’n cynnwys 26 o gerddi dwyieithog, wedi’u hysbrydoli gan 26 o drysorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Fri, 01 Jun 12 12:21:00

I’r sawl sy’n chwilfrydig am drysorau ein Llyfrgell Genedlaethol, ac sy’n ymddiddori yn yr hanes y tu ôl iddynt, dyma gyfle yn awr i weld sut y mae beirdd- sy’n ysgrifennu’n y Gymraeg a’r Saesneg- wedi dehongli ‘lleisiau’r’ 26 gwrthrych, mewn llyfr newydd, sef 26Treasures  fydd yn cael ei gyhoeddi’r mis hwn.

Bydd y llyfr yn cael ei lansio ar ddydd Mawrth, 12fed o Fehefin, yn Siambr y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.  Os ydych yn dymuno derbyn gwahoddiad, (sydd ar gael i aelodau o’r cyhoedd) ebostiwch lowri@tynewydd.org.  Bydd Her Cyfieithu, Tŷ Cyfieithu Cymru hefyd yn cael ei lansio yn y digwyddiad.

Cafodd y llyfr ei aml-gyllido trwy gyfrwng Unbound, a hon fydd y flodeugerdd o ‘sestudes’  gyntaf yn y byd- ffurf lenyddol newydd o 62 gair yn unig,  wedi’i ddyfeisio’n arbennig ar gyfer y prosiectau sydd wedi bod yn sylfaen i’r llyfr.  Bydd yn cynnwys cyfraniadau o brosiectau tebyg gan y V & A, Amgueddfa Ulster a Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, a bydd yn cynnwys ‘sestudes’ gan feirdd blaenllaw megis Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru; Andrew Motion, Alexander McCall Smith, Mererid Hopwood a Karen Owen.

Y nod oedd cael ymateb personol i’r gwrthrychau ac i ysbrydoli ymwelwyr yr amgueuddfeydd (neu ymwelwyr o’r casgliadau ar-lein) gan fwrw goleuni newydd ar y trysorau.
Y mae adran ‘Cymru’ y llyfr yn arddangos 26 darn o waith, 13 yn y Gymraeg, a 13 yn y Saesneg, ochr yn ochr â lluniau trawiadol o’r gwrthrychau.  Cyfieithwyd pob ‘sestude’ o un iaith i’r llall, gan gadw at y rheol fod raid i bob ‘sestude’ fod yn union 62 gair.

Trefnwyd prosiect Cymru gan grŵp Ysgrifenwyr 26, mewn cydweithrediad â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.  Rhoddwyd yr ysgrifenwyr a’r trysorau mewn parau ar hap- o ffilm o Lloyd George yn cyfarfod â Hitler, i hunanbortread gan Shani Rhys James- gan roi chwe wythnos yn unig iddynt i gwblhau’r dasg.

Cafodd y gwaith ei arddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd, fel rhan o Her Cyfieithu, Tŷ Cyfieithu Cymru, a drefnwyd gan  Llenyddiaeth Cymru a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.  Rhoddwyd Ffon Pencerdd yn wobr i Hywel Meilyr Griffiths am ei gyfieithiad o ‘Old Banknotes’ gan Lin Sagovsky.  Yr oedd y cyfieithiad yn un arbennig iawn, gan fod y gwaith gwreiddiol gan Lin- wedi cael ei ysbrydoli gan y gwrthrych a roddwyd iddi ar hap, sef arian papur Cymraeg o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg- yn tynnu ar yr iaith mewn sloganau hysbysebu.

Bydd y llyfr, (sydd wedi’i brisio’n £10 am gopi electronig, a £18 am copi clawr caled), yn cael ei ddanfon i’r tanysgrifwyr ym mis Mehefin, a bydd yr ail argraffiad yn cael ei ddanfon gan Faber i siopau ym mis Medi, ac ar gael i’w archebu ar-lein.  Y mae modd o hyd i brynu’r llyfr wrth ymweld â gwefan www.unbound.co.uk/books/26-treasures  I gael darllen y cerddi, y cyfieithiadau a rhai o’r straeon sy’n gefndir i’r cerddi ewch i www.26.treasures.com

Dywedodd Arwel Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus, Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth:  “Mae’r prosiect hwn yn mynd i galon yr hyn ydi’r Llyfrgell Genedlaethol.  Rydym yn diogelu trysorau’r genedl, fel y gallan nhw ysbrydoli pobl o’r newydd.  Mae hi wedi bod yn bleser.”

Dywedodd Sally Baker, Cyfarwyddwr Tŷ Newydd:  “Mae hwn yn brosiect mor gyffrous i Dŷ Newydd, gallwn wisgo dwy het ar yr un pryd; Tŷ Newydd, y Ganolfan Ysgrifennu, sy’n cefnogi ysgrifennu newydd, a Thŷ Cyfieithu Cymru, ein menter ar y cyd â Chyfnewidfa Lên Cymru, sy’n annog cyfieithu llenyddiaeth.  Yn ogystal, cawsom y pleser ychwanegol o gael cydweithio â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Grŵp Ysgrifennu’r 26 a Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru.”

Ychwanegodd John Simmons, un o sefydlwyr 26: “Y mae 26 o Drysorau yn rhyddhau geiriau  teimladwy sydd wedi’u saernio’n grefftus am y gwrthrychau gwerthfawr.  Maent yn llwyddo i roi cipowlg annisgwyl a phersonol i gasgliad y Llyfrgell.”

Dywedodd Sioend Puw Rowlands, Cyfarwyddwr Cyfnewidfa Lên Cymru: “Fel a ddywedodd y bardd mawr o Awstralia, Les Murray, ‘We are a language species’ ac y mae cyfieithu o bosibl yn weithred sy’n diffinio bodau dynol.  Mae’r prosiect hwn yn atgyfnerthu’r ffaith fod modd ennyn creadigrwydd wrth gyfieithu: cyfieithu delweddau, cyfieithu geiriau.”

Gwybodaeth bellach:
Siôn Jobbins NLW Press Office 01970 632902 post@llgc.org.uk


Cysylltiadau Allanol
26 Trysor
Ty Newydd
Llenyddiaeth Cymru

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012