Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Y Llyfrgell Gen yn y Steddfod Gen!

Tue, 17 Jul 12 14:42:00

Bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn yr Eisteddfod Genedlaethol eto … ond bydd un neu ddau ddatblygiad newydd ym Mro Morgannwg eleni.

Yn wahanol i’r arfer ni fydd arddangosfa’r stondin yn cynnwys lluniau a chasgliadau wedi eu fframio. Yn hytrach bydd popeth wedi eu rhoi ar ddwy sgrin fawr ar ffurf ffrwd lluniau!

Prif thema’r stondin eleni fydd newyddion mawr y flwyddyn fod holl archif Gymreig cwmni teledu ITV yn dod i Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru  
sy’n rhan o’r Llyfrgell. Felly, yn ogystal â gweld casgliadau’r Llyfrgell ar y sgrin gall eisteddfodwyr hefyd fwynhau gwylio rhifynnau o Teulu’r Mans a Torri Gwynt.

I gyd fynd gyda thema Archif ITV ceir sgyrsiau dyddiol rhwng staff y Llyfrgell a rhai sêr darlledu Cymru ar y stondin. Ymysg y sêr ceir: Dai Jones, Llanilar; Jenny Ogwen; Hywel Gwynfryn; Dewi Pws a Elinor Jones.

Bydd hefyd cerddoriaeth fyw am ddim ar y stondin o ddydd Llun i Gwener: Greta Isaac; Brigyn, Ynyr Llwyd, Al Lewis a Heather Jones.

Bydd croeso arbennig i breswylwyr y Maes Carafanau. Mewn cydweithrediad gyda’n chwaer sefydliad, yr Amgueddfa Genedlaethol, byddwn yn cyhoeddi taflen A5 a ddosberthir i bob carafán. Cynigir ostyngiad o 10% oddi ar nwyddau siop y Llyfrgell ar y Maes gyda phawb sy’n cyflwyno un o’r taflenni yma i ni gyda’i pryniant.


Cliciwch yma i weld ac argraffu eich taflen o ddigwyddiadau’r wythnos ar stondin y Llyfrgell Genedlaethol. Welwn ni chi yno!


Dolenni:

Tudalen Eisteddfod y Llyfrgell

Gwefan Eisteddfod Genedlaethol

Twitter #eisteddfod2012



Manylion pellach:

Siôn Jobbins, Swyddfa'r Wasg LLGC: 01970 632902  post@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012