Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Llawysgrif ‘Boston’ Cyfraith Hywel nôl ar dir Cymru

Fri, 20 Jul 12 16:19:00

Bydd llawysgrif ‘Boston’ o Gyfreithiau Hywel Dda yn dod nôl i Gymru a’i harddangos am y tro cyntaf mewn dros ddau gan mlynedd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Bydd y llawysgrif nawr yn cael ei dangos i’r cyhoedd o 23 Gorffennaf – 31 Awst, cyn ei rhoi o’r neilltu er mwyn gwneud gwaith cadwraeth gan gynnwys ail-rwymo a digido.Prynwyd y llawysgrif mewn ocsiwn yn Sotheby’s yn Llundain ddydd Mawrth 10 Gorffennaf am £531,250.

Cyfrannodd y Gronfa Loteri Genedlaethol grant o £467,000 tuag y pryniant gyda gweddill y gyllideb yn dod o goffrau’r Llyfrgell ei hun a grant gan Lywodraeth Cymru.Meddai Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru;‘Mae amlwg heb gefnogaeth ariannol sylweddol ac ewyllys a phenderfyniad chwim y Gronfa, ni fyddai’r Llyfrgell wedi gallu prynu’r llawysgrif hon. Yn syml, heb CLG ni fyddai’r llawysgrif hon o Gyfreithiau Hywel Dda wedi dychwelyd i’w chartref yng Nghymru.
Mae’r diolch ganddom ni fel Llyfrgell ac ar ran y genedl Gymreig i’r Gronfa, ac i Dr Manon Williams y Cadeirydd, yn fawr iawn.

’Meddai’r Dr Manon Williams, Cadeirydd Pwyllgor Cymru o’r Gronfa;
‘Mae’r llawysgrif hon yn un o wir drysorau Cymru ac rwy wrth fy modd ei gweld yn nôl ar dir Cymru ac yn y Llyfrgell Genedlaethol lle gall arbenigwyr nawr ei hastudio a’i dadansoddi fel y cawn well dealltwriaeth o’i chynnwys am y tro cyntaf. Gobeithiaf y bydd pobl leol ac ymwelwyr yn bachu ar y cyfle unigryw i weld y darn pwysig hwn o hanes Cymru wrth iddi gael ei harddangos tan ddiwedd mis Awst.’

Arddangosir y llawysgrif yn Ystafell Hengwrt y Llyfrgell yn Aberystwyth. Dyma oriel bwrpasol y Llyfrgell ar gyfer arddangos llawysgrifau a llyfrau prin ac ar hyn o’r bryd ceir yno hefyd arddangosfa o hen seliau Cymreig. Wedi cyfnod yr arddangosfa bydd arbenigwyr y Llyfrgell yn astudio’r llawysgrif, ac yn ei thrin yn gadwriaethol  gan wneud copi ffacsimili ohoni. Gwneir hefyd gopi digidol o’r llawysgrif fel y bydd modd ei gweld maes o law ar wefan y Llyfrgell. Gorffennir y gwaith yma erbyn diwedd 2012 ac yna cedwir y llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol yn gwmni i lawysgrifau pwysig eraill.

Mae cynlluniau hefyd ar y gweill i greu rhaglen addysgol a chyfleoedd hyfforddiant ar gyfer staff cyfredol, prentisiaid a gwirfoddolwyr fel y gallant ddysgu sgiliau newydd a chwarae eu rhannyn niogelu’r llawysgrif at y dyfodol. Mae cynlluniau hefyd ar gyfer arddangos y ffacsimili.

Gwybodaeth am y Llawysgrif
Llyfr maint poced hwn, a ysgrifennwyd mewn Cymraeg canoloesol ac sy’n cynnwys addurniadau lliw, yw yn o’r llawysgrifau cynharaf o’i fath i gael ei gynnig mewn arwerthiant a chafodd ei roi ar ocsiwn gan Gymdeithas Hanesyddol Massachusetts oedd yn debygol o fod wedi derbyn y llawysgrif fel anrheg oddi wrth ymfudwyr Cymreig yn gynnar yn y 19eg ganrif.  

Mae Cyfreithiau Hywel Dda yn derm disgrifiadol sydd wedi bodoli am amser maith ac  sy’n cwmpasu’r cyfreithiau Cymreig brodorol a gafodd eu cyfundrefnu yn y 10fed ganrif yn Ne Orllewin Cymru. Gellir gweld y testunau sydd wedi goroesi mewn tua 30 o lawysgrifau yn dyddio o’r  13eg - 16eg ganrif yn y Gymraeg a Lladin.  Mae’r gyfrol memrwn bychan hon yn enghraifft gynnar iawn o destun allweddol yn hanes cyfraith Cymru ac fe fyddai wedi cael ei ddefnyddio gan farnwr crwydrol yn Ne Cymru yn y 14eg ganrif. Mae’n cynnig cipolwg newydd ar ddatblygiad hunaniaeth Cymru a’i bywyd diwylliannol.

Yn wahanol i’r rhan fwyaf o lawysgrifau Cymreig canoloesol eraill, mae gan Lawysgrif Boston ychwanegiadau mewn llawysgrifen, gan ddangos iddi gael ei defnyddio fel testun cyfreithiol gweithiol. Mae’n llawer agosach i realaeth a gweithredu’r gyfraith ac mae’n cynnig digon o rychwant ar gyfer ymchwil newydd pwysig. 

Gwybodaeth Bellach:

Elin-Hâf Williams, Swyddfa'r Wasg LlGC: 01970 632902 neu post@llgc.org.uk

Am CDL
Trwy ddefnyddio arian a gesglir trwy’r Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) yn cynnal ac yn trawsnewid amrywiaeth helaeth o dreftadaeth er mwyn i genedlaethau heddiw a’r dyfodol gymryd rhan ynddyn nhw, dysgu oddi wrthyn nhw a’u mwynhau. O amgueddfeydd, parciau a mannau hanesyddol i archaeoleg, yr amgylchedd naturiol a thraddodiadau celfyddydol, rydyn ni’n buddsoddi ym mhob rhan o’n treftadaeth amrywiol. Mae CDL wedi cefnogi mwy na 30,000 o brosiectau, gan ddyrannu dros £4.5 biliwn ar draws y DU, yn cynnwys mwy na 2,000 o brosiectau gyda chyfanswm o dros £224 miliwn yng Nghymru. I ddarganfod mwy, ewch i www.hlf.org.uk


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012