Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Lle aeth pawb?

Fri, 27 Jul 12 11:17:00

Oeddech chi yn Eisteddfod Hwlffordd 1972 – neu oedd eich rhieni?

Wrth gyfrannu miloedd o ddelweddau i brosiect Europeana Libraries fe ddaeth staff y Llyfrgell Genedlaethol ar draws ffotograffau o’r eisteddfod yma union deugain mlynedd yn ôl.

Meddai Douglas Jones, Rheolwr Rhaglen Ddigido Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

‘Wrth baratoi’r casgliad yma ar gyfer y prosiect darganfuwyd set o oddeutu 500 o ffotograffau oedd heb eu catalogio o Eisteddfod Genedlaethol Hwlffordd yn 1972.’

Mae’r darganfyddiad cyffrous yma yn cynnwys ffotograffau o Carwyn James, Meic Stevens, y prif seremonïau, cynhyrchiad Y Theatr Ifanc o’r ddrama ‘Y Rhai a Lwydda’ a’r cyngerdd roc ‘Gwallt yn y Gwynt’. Mae’r set hefyd yn cynnwys nifer o ffotograffau o’r cystadlu ac o fwrlwm y maes.

‘Pedwardeg mlynedd ers i’r lluniau yma gweld golau dydd diwethaf mae’r Llyfrgell, ar y cyd gyda Casgliad y Werin, angen cymorth pobl Cymru i adnabod rhai o’r unigolion a’r digwyddiadau yn y lluniau yma – ac felly rydym wedi penderfynu gosod ugain llun ar wefan Casgliad y Werin er mwyn i’r cyhoedd fedru gadael eu sylwadau’ Ychwanegodd Douglas Jones.

Gydag wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn agosáu tybed a allwch chi ein helpu? A ydych chi yn adnabod rhywun sydd yn un o’r lluniau yma? Ydych chi’n gwybod hanes y cystadlaethau wnaeth Geoff Charles eu tynnu? A oeddech, fel John Pierce Jones a Mei Jones, yn rhan o’r cynhyrchiad o ‘Y Rhai a Lwydda’, neu a oeddech, fel Michael Povey ifanc, yn un o’r gynulleidfa yn y cyngerdd ‘Gwallt yn y Gwynt’? Os allwch  chi ein helpu ac am rannu eich atgofion ewch draw i wefan Casgliad y Werin a gadewch sylw!

Mae’r ffotos am fod yn rhan o broject Europeana Libraries, prosiect pellgyrhaeddol sydd am greu mynediad di-dâl i 5 miliwn o eitemau digidol o 19 o brif lyfrgelloedd ymchwil Ewrop trwy wefannau'r Llyfrgell Ewropeaidd a Europeana. Bwriad y prosiect yma yw gosod y sylfaen i greu un porth at eitemau digidol di-dâl o bob un o lyfrgelloedd ymchwil  Ewrop. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn cyfrannu dros chwarter miliwn o eitemau digidol i’r prosiect, yn ei phlith dros 120,000 o ddelweddau o gasgliad ffotograffig Geoff Charles.


Gwybodaeth bellach:
Elin Hâf, Swyddfa’r Wasg LLGC 01970 632534 post@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012