Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

“Technoleg ddigidol yn allweddol i gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf” meddai’r Prif Weinidog

Tue, 07 Aug 12 14:22:00

Bydd gan dechnoleg ddigidol rôl flaenllaw i’w chwarae wrth i Gymru nodi can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, heddiw (Dydd Mercher 8 Awst).

Ar ymweliad â stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol, amlinellodd Mr Jones ei weledigaeth ar gyfer nodi’r achlysur, gan gynnwys sicrhau bod profiadau’r Cymry o’r rhyfel ar gof a chadw ar ffurf ddigidol.

Hefyd, clywodd y Prif Weinidog am brosiect gwerth £1 miliwn y mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn ei arwain i ddigideiddio llawysgrifau, ffotograffau, ffilm a llawer o bethau eraill sy’n dangos hanes cudd y rhyfel a sut y bu iddo effeithio ar bob agwedd ar fywyd yng Nghymru. Derbyniodd y prosiect grant o £500,000 gan y Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth a chefnogaeth ariannol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

Ymhlith y casgliadau a fydd yn cael eu digideiddio mae 190,000 o dudalennau o destun argraffedig, lluniau, 50 awr o sain ac 20 awr o ddeunydd clyweledol. Mae llawer o’r cynnwys yn fregus, yn anodd cael mynediad atynt ac wedi’u gwasgaru ar draws sawl sefydliad yng Nghymru.

Ymhlith y delweddau pwysicaf mae cofnodion y Corfflu Cymreig; papurau newydd Cymreig 1913-1919, cyfnodolion Cymreig a chyhoeddiadau argraffedig eraill, dyddiaduron, cylchgronau a llythyrau ac archifau llenyddol, gan gynnwys gwaith beirdd o gyfnod y rhyfel, megis Edward Thomas, David Jones a Hedd Wyn.

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cofio aberth y bobl fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, rhyfel a newidiodd Gymru a’r byd am byth.

“Rhwng 2014 a 2018 caiff seremonïau coffa eu cynnal yng Nghymru a thu hwnt i dalu teyrnged i’r milwyr a’r bobl gyffredin fu farw.

“Rhaid sicrhau bod hanesion ein cyndadau ar gael drwy adnoddau digidol er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ddeall y digwyddiad hollbwysig hwn yn ein hanes, a dysgu gwersi ohono. Mae cymaint o hanesion a straeon ar gael i’w cofnodi. Er enghraifft, stori’r glowyr o Gymru a ddefnyddiodd eu sgiliau i adeiladu twneli o dan ‘dir neb’ a sut yr oedd y Llynges Brydeinig yn ddibynnol ar ynni glo Cymru - mae’r straeon hyn yn llawn haeddu eu lle yn hanes Cymru. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf y sefydlwyd Byddin Tir y Menywod a gwelwyd menywod yn gweithio fel heddweision am y tro cyntaf. Rydyn ni’n gweithio i wneud yn siŵr fod stori Cymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei chofnodi i bawb.”

Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fod wedi penodi Syr Deian Hopkin fel ymgynghorydd arbenigol iddo ar weithgareddau i nodi can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf.

Croesawodd yr Athro Syr Deian Hopkin, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y Prif Weinidog i stondin y Llyfrgell i roi mwy o fanylion am y cynllun.

Dywedodd Syr Deian:

"Arweiniodd dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf at gyfres o ddigwyddiadau a newidiodd Gymru am byth. Cyffyrddwyd bron bob teulu a chymuned yng Nghymru gan farwolaeth drasig llawer iawn o ddynion ifainc. Hefyd, gwelwyd newidiadau pellgyrhaeddol ym maes gwleidyddiaeth a’r etholfraint – yr hawl i bleidleisio – yn ogystal â newidiadau i drefn y wladwriaeth, i rôl menywod yn ein heconomi a’n cymdeithas, a llawer mwy. Braint oedd cael fy ngwahodd gan y Prif Weinidog, i edrych ar y ffordd fwyaf priodol o nodi’r canmlwyddiant a bydd y prosiect digidol cyffrous hwn yn ganolog i’n cynlluniau.

“Mae’n bwysig fod y gweithgareddau coffa yn ymwneud â chymaint o bobl a sefydliadau â phosib. Yn ystod yr hydref byddwn yn cynnal cyfarfodydd ledled Cymru i gasglu syniadau ac i helpu i ddatblygu rhaglen eang o weithgareddau ar gyfer 2014-2018. Rwyf eisoes wedi cwrdd â chynrychiolwyr Llywodraeth y Deyrnas Unedig a rhanddeiliaid allweddol eraill. Yng Nghymru byddaf yn gweithio gydag Amgueddfa Cymru, Yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cyngor Celfyddydau Cymru a’r BBC, yn ogystal â chydweithwyr yn y Llyfrgell Genedlaethol, i sicrhau bod profiad unigryw Cymru o’r rhyfel, a’i chyfraniad unigryw ato, yn cael ei hadlewyrchu’n llawn. Bydd cyngor gan arbenigwyr ym maes hanes, llenyddiaeth, celf a cherddoriaeth hefyd yn allweddol i sicrhau digwyddiadau a phrosiectau coffa priodol fel bo cenedlaethau’r dyfodol yn deall effeithiau’r rhyfel ofnadwy hwn.”

Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod tŷ Hedd Wyn, bardd y Gadair Ddu yn Eisteddfod Penbedw 1917, wedi cael ei brynu ar ran y genedl fel rhan o gynlluniau i nodi’r Rhyfel Byd Cyntaf.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch swyddfa’r wasg Llywodraeth Cymru 029 2082 1823.



Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012