Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

03 yw’r rhif cyfrin

Wed, 12 Sep 12 13:38:00

Agorir gwasanaeth bws newydd a fydd yn cysylltu canol tref Aberystwyth, y Brifysgol a’r Llyfrgell Genedlaethol yn swyddogol heddiw (Dydd Iau 13 Medi) gan y Gweinidog am Adfywiad, Huw Lewis AC.
 
Bydd y bws 03 Mid Wales Travel, a fydd yn darparu gwasanaeth deirgwaith yr awr, yn galw rhwng y dref, y Llyfrgell Genedlaethol, y Brifysgol, Canolfan y Celfyddydau ar Ganolfan Chwaraeon trwy ffordd gysylltiol newydd.
Cyllidwyd y ffordd newydd, sy’n pontio rhwng cefn y Llyfrgell Genedlaethol a Chanolfan Chwaraeon y Brifysgol, gan grant gwerth £192, 750 oddi wrth Gronfa Adfywiad Ardal Aberystwyth. Ei bwriad yw hybu’r amgylchedd trwy leihau’r nifer o geir a phwysau traffig ar y campws yn ogystal ag agor llwybr cerdded a beicio newydd.

Esbonia Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro April McMahon:

“Yr ydym wrth ein bodd gyda’r fenter newydd hon rhwng y Brifysgol a’r Llyfrgell. Bydd yn darparu gwell gwasanaeth bws i fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd, a hefyd yn darparu amgylchedd mwy diogel. Carwn hefyd feddwl ei fod yn gam pwysig tuag at ein nod o annog pobl leol i wneud gwell defnydd o’r hyn sydd gennym i’w gynnig.”

Meddai Andrew Green, Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: “Mae Prosiect Adfywiad Ardal Aberystwyth wedi rhoddi inni’r cyfle i weithio’n effeithiol mewn partneriaeth gyda sefydliadau allweddol yn y dref. Galluoga’r prosiect newydd hwn inni hybu ein sefydliadau unigol yn eu cyd-destun ymysg y profiadau gwych eraill a geir yn y dref.”

Ychwanega Gweinidog dros Adfywio, Huw Lewis AC: “Mae creu tref fywiog, atyniadol a llewyrchus ar gyfer pobl Aberystwyth yn flaenoriaeth, yn ogystal â sicrhau gwella hygyrchedd. Mae Llywodraeth Cymru yn daer yn ei hymroddiad i adfywio canol trefi a bydd y prosiect hwn yn ei gwneud yn haws i drigolion y dref ac ymwelwyr i deithio i leoliadau allweddol. Bydd hefyd yn cefnogi’r dref wrth iddi hyrwyddo’i diwylliant amrywiol.”

Yn ystod y tymor mi fydd y gwasanaeth newydd yn cylchu rhwng y dref, y Llyfrgell Genedlaethol a Champws Penglais bob 20 munud rhwng 07:40 ac 19:40, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae’r gwasanaeth hwyrnos rhwng 20:20 a 22:20 yn rhedeg bob awr, ac mae’r bws diwethaf yn gadael Canolfan y Celfyddydau am 22:33.

Ar y penwythnosau a thu allan i ddyddiau’r tymor, darperir gwasanaeth bob awr rhwng 07:45 a 22:45. Gellir gweld amserlen lawn a map o’r campws ar y wefan hon: www.aber.ac.uk/cy/maps-travel/bus/new-bus/

Bydd Mid Wales Travel, cwmni lleol wedi’i leoli ym Mhenrhyn-coch, yn defnyddio’r bws 29 sedd gyda pheiriant Euro 5, yr Enviro200, ar gyfer y gwasanaeth hwn, sef y model allyriadau isel, amgylcheddol-gyfeillgar, diweddaraf.

Cost taith unigol o’r dref i’r cyrchfannau ar Riw Penglais, neu daith unigol yn y cyfeiriad arall, fydd £1 (50c i blant), a gellir prynu’r tocyn ar y bws. Caiff staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru bwrcasu tocyn blwyddyn am £65. Gellir pwrcasu'r rhain o Undeb y Myfyrwyr yn y Brifysgol. Caniateir i ddeiliaid Tocyn Teithio Mantais Ceredigion ddefnyddio’r gwasanaeth am ddim.

Gwybodaeth bellach
:

Esther Eckley, Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus, Prifysgol Aberystwyth
01970 621571 / ese6@aber.ac.uk

Elin Haf Williams, Swyddog Cyfathrebu, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
01970 632 534 / post@llgc.org.uk

Deian Creunant, Cyfathrebu Canolbarth a Gorllewin Cymru, Llywodraeth Cymru
0300 062 2127 / deian.creunant@wales.gsi.gov.uk 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012