Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Canrif o Gadwraeth yn y Llyfrgell Genedlaethol

Mon, 15 Oct 12 15:26:00

Eleni, mae un o adrannau mwyaf diddorol y Llyfrgell yn dathlu ei chanmlwyddiant. Yr adran dan sylw yw’r Uned Gadwraeth, ac mae’r gwaith graenus, arbenigol a diddorol a wneir yno wedi sicrhau fod nifer o gasgliadau pwysicaf y Llyfrgell a’r genedl mewn gwell cyflwr nawr nag oedden nhw ganrif ynghynt!


Sefydlwyd yr Uned yn 1912 o ganlyniad i ymrwymiad y Llyfrgell yn ei Siarter Sefydlu i gasglu, cadw a chynnal llyfrau printiedig, llawysgrifau a chasgliadau eraill sy’n berthnasol i Gymru. Carl Hanson, gŵr a hanai o Norwy oedd y pennaeth cyntaf, a bu yn ei waith o 1912 hyd at ei ymddeoliad yn 1959 - yn 87 oed!

Gan mai deunyddiau organig yw cyfansoddiad y mwyafrif o eitemau’r casgliadau, maent mewn perygl o ddadfeilio dros amser  mewn amodau amgylcheddol anffafriol. Felly, gall gwaith yr uned weithiau fod yn ras yn erbyn amser i arbed ac i achub rhai o’r casgliadau. Drwy ddefnyddio dulliau arbenigol gellir atal neu arafu’n sylweddol y dirywiad hwn er mwyn cadw’n trysorau ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod.

Ymdrechir i ddiogelu’r casgliadau cyn eu bod yn cael eu difrodi yn y lle cyntaf. I’r perwyl hwn caiff tua 10,000 o flychau diasid eu cynhyrchu’n flynyddol yn ochr ‘ataliol’ yr uned. Ceir hinsawdd micro oddi fewn i bob blwch sydd yn cynnig  tymheredd a lleithder awyr (RH) mwy sefydlog.  Mae blwch hefyd yn amddiffynfa rhag effeithiau niweidiol goleuni, llygredd o’r awyr, a difrod corfforol. Mae amgylchedd glân a sefydlog yn hollbwysig er lles y casgliadau, ac mae aelodau'r uned yn monitro amgylchedd y Llyfrgell a’r mannau arddangos yn rheolaidd er mwyn sicrhau nad yw’r amodau’n rhy sych neu’n rhy laith. Gall awyrgylch rhy sych freuo deunyddiau fel papur, lliain a lledr, a gall awyrgylch rhy laith ddenu llwydni a phryfed gan beryglu’r casgliadau.

Yn gymharol ddiweddar, sefydlwyd adeilad cwarantîn fel rhan o’r uned i ymdrin â derbynion llygredig. Yn gyson, daw casgliadau’n rhodd i’r Llyfrgell – casgliadau a fu am flynyddoedd mewn seler neu gapel llaith, ac o’r herwydd yn gallu cynnwys llwydni a phryfed byw! Mae’r tîm o lanhawyr cadwraethol yn defnyddio offer arbennig yn yr adeilad hwn i waredu plâu o’r fath gan sicrhau nad yw gweddill casgliadau’r Llyfrgell – heb sôn am y staff a’r darllenwyr yn cael eu heffeithio.

Mae gwaith yr Uned yn amrywiol, ac yn cynnwys gweithgareddau ‘triniaeth’ yn ogystal â’r ochr ‘ataliol’.  Mae gan gadwraethwyr yr uned flynyddoedd o brofiad yn y maes - ac yn arbenigwyr ar drwsio papur a memrwn, gyda’r sgiliau i ailrwymo cyfrolau yn eu harddulliau gwreiddiol. Maent hefyd yn medru trin ffotograffau, seliau cŵyr, mapiau, a llu o wrthrychau eraill a gedwir yng nghasgliadau’r Llyfrgell. Mae rhai o’r cadwraethwyr eisoes wedi dechrau ar waith cadwraethol manwl ar lawysgrif Boston, y llawysgrif o gyfreithiau Hywel Dda a brynwyd yn Sotheby’s yn gynharach eleni gyda grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.


Mae nifer o’r offer a ddefnyddir yn y gweithdy yn dyddio nôl i ddyddiau cynnar yr uned, ac yn cydfyw yn hapus ag offer mwy diweddar. Er bod newidiadau mawr wedi cymryd lle dros y ganrif, mae nifer o nodweddion y gwaith wedi aros yn ddigyfnewid, ond er hynny, mae ambell weithgaredd wedi newid yn llwyr, ac fel yr esboniodd Iwan Bryn James,  pennaeth Uned Cadwraeth y Llyfrgell Genedlaethol:

‘Mae’n deg dweud fod yna ambell dechneg gadwraethol  o’r ganrif ddiwethaf na fyddem ni byth yn ei defnyddio heddiw. Mae mwy o bwyslais bellach ar gadw cymeriad gwreiddiol llyfr, llawysgrif neu fap. Mae yna ystyriaethau moesol ynghlwm â chadwraeth, ac mae’n bwysig osgoi gordrwsio eitem.
Mae’n bwysig ein bod ni fel cadwraethwyr yn parhau i bwysleisio ac i ddysgu eraill fod gan gadwraeth – yn enwedig cadwraeth draddodiadol o drin a thrwsio eitemau – le pwysig yn yr oes ddigidol. Heb waith o’r fath, ni ellir digido unrhyw gasgliad yn ei gyfanrwydd. Gobeithio felly bod yna ddyfodol hir a disglair i’r uned gadwraeth, ac y bydd yna gadwraethwyr ymhen canrif arall yn dathlu dau ganmlwyddiant cadwraeth yn y Llyfrgell Genedlaethol.’


Gwybodaeth bellach:
Elin Hâf, Swyddfa’r Wasg LLGC 01970 632534 neu post@llgc.org.uk

Dolenni
Gofal Casgliadau



Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012