Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Cyhoeddi Data, a Data Cysylltiol ym maes y Dyniaethau

Mon, 22 Oct 12 14:09:00

12fed Tachwedd, 2012, 09:30-16:30
Siambr y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ynglŷn â’r Digwyddiad

Bydd ffigurau blaenllaw o gymuned y dyniaethau digidol, llyfrgelloedd ac archifdai yn ymdrin â’r prif heriau wrth drosglwyddo datblygiadau diweddar y We Semantig o labordai ymchwil i fyd go iawn  ymchwil y dyniaethau.   Mae’r term "data cysylltiol" yn cwmpasu casgliad o egwyddorion a dulliau ar gyfer cyhoeddi, rhannu a chysylltu data dros y We, yn benodol trwy ddefnyddio gwe-dechnolegau semantig.  Mae gan ymchwilwyr y dyniaethau fynediad at lawer iawn o ddeunydd digidol, pa un ai trwy gynnyrch ymchwilwyr eraill neu trwy raglenni digido mewn archifdai ac amgueddfeydd.  Fodd bynnag, hyd yn oed pan fo’r adnoddau hyn yn hygyrch ar y We, maent yn aml yn cael eu dal mewn pocedi gwasgaredig ar eu pennau’u hunain ac yn anodd eu cyrraedd mewn modd integredig oherwydd yr amrywiaeth o fformatau, geirfaoedd a safonau a ddefnyddir i’w nodweddu.  Byddai adnoddau o’r fath yn llawer mwy defnyddiol i ysgolheigion pe gellid eu cydgysylltu a’u harchwilio fel un dirwedd o ddata cyfoethog.
Bydd y seminar yn ymchwilio i’r modd y gall data cysylltiol wasanaethu’r celfyddydau a’r dyniaethau digidol trwy ddod ag arbenigwyr rhyngwladol y we semantig at ei gilydd i drafod y dulliau presennol ym maes celfyddydau a dyniaethau digidol.   

Trefnir y gweithdy hwn gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar y cyd â Choleg y Brenin, Llundain a’i gyllido gan JISC.

Ni chodir tâl am fynychu’r gweithdy; serch hynny, rhaid cofrestru trwy anfon e-bost at Angharad Medi Lewis yn LlGC: amj@llgc.org.uk


Rhaglen

09:30 Cyrraedd a Choffi 
10:00 Croeso gan Lorna Hughes a Mark Hedges
10:15 Jane Stevenson a Adrian Stevenson, Prifysgol Manceinion
10:45 Dominic Oldman, Yr Amgueddfa Brydeinig
11:15 Christian Emil Ore, Prifysgol Oslo
11.45 Leif Isaksen, Prifysgol Southampton
12:15 Trafodaeth
13:00 Cinio
14:00 Sebastian Rahtz, Prifysgol Rhydychen
14:30 Michael Charno, Prifysgol Efrog
15:00 Gill Hamilton, Llyfrgell Genedlaethol Yr Alban 
15:30 Trafodaeth
16:30 Te




Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012