Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Dot Dot Dash: Cymru’n Cyfathrebu

Fri, 02 Nov 12 09:31:00

Ydych chi’n cofio bywyd heb Facebook a Twitter? Oeddech chi’n gwylio’r teledu 30 mlynedd yn ôl ar y noson pan gafodd S4C ei lansio? Ydych chi’n cofio gwrando am newyddion pwysig o’r  rheng flaen ar y weiarles yn ystod yr Ail Ryfel Byd? A oeddech erioed yn meddwl y byddech yn gweld teclyn morse code yn cael ei ddefnyddio ar gyfer trydar?

Drwy lygad ein prif gymeriad, Bryn Jones, bydd arddangosfa Dot Dot Dash: Cymru’n Cyfathrebu sydd i’w weld yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth rhwng 3 Tachwedd 2012 a 14 Medi 2013 yn canolbwyntio ar gasgliadau Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru ac yn arddangos clipiau gweledol a chlywedol eiconig o bob degawd o’r ganrif ddiwethaf. Cawn gipolwg ar rai o’r cerrig milltir hynny yn hanes cyfathrebu yng Nghymru sydd wedi newid y ffordd ry’n ni’n byw heddiw.

Drwy ddangos gwrthrychau wedi eu benthyg gan y Museum of Communication yn Fife, bydd yr arddangosfa yn eich tywys ar daith drwy amser gyda setiau radio a theledu cynnar, clipiau ffilmiau cartref a chlipiau sain o ddarllediadau radio cynnar yng Nghymru.

Meddai Jaimie Thomas, Swyddog Arddangosfeydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

‘Mae’r arddangosfa hon yn rhoi llwyfan i eitemau gwerthfawr yn yr Archif Sgrin a Sain wrth i ni olrhain hanes cyfathrebu yng Nghymru rhwng 1912 a 2012.’

Bydd yr arddangosfa gyffrous hon hefyd yn olrhain hanes lluniau a chartwnau yng Nghymru ac yn arddangos gweithiau gan rhai o gartwnwyr ac arlunwyr mwyaf nodedig Cymru.

Mae Mike Collins a David Roach yn enwog am greu stripedi comig Dr.Who, Spiderman, Batman a Judge Dredd, ac yn yr arddangosfa hon byddwn yn cael cipolwg ar frasluniau ac animeiddiadau nad oes neb wedi eu gweld yn gyhoeddus o’r blaen.

Bydd cyfle hefyd i weld eitemau o gasgliad y Llyfrgell yn cynnwys stribedi cartŵn Superted, darluniau gwreiddiol Llyfr Mawr y Plant a rhai o gartwnau dychanol cynharaf gan gartwnwyr o Gymru.

Beth am ymuno â ni ar y 26ain o Ionawr ble byddwn yn cynnal diwrnod llawn hwyl i ddathlu dylanwad cyfathrebu yng Nghymru? Cynhelir gweithdai animeiddio, teithiau tywys ynghyd â dangosiad ffilmiau o gasgliad Arddangosfa Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.

Gwybodaeth bellach:
Elin Hâf, Swyddfa’r Wasg 01970 632534 neu post@llgc.org.uk

Tudalen Dot Dot Dash

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012