Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Lansiad Siaradwyr i Ysgolion ledled Cymru

Thu, 22 Nov 12 15:13:00

Lawnsir yr elusen Siaradwyr i Ysgolion / Speakers for Schools yng Nghymru (wythnos 26 – 30 Tachwedd) gyda chyfres o anerchiadau mewn ysgolion uwchradd y wladwriaeth ar draws y wlad. Eisoes, bu i arweinwyr mewn busnesau Cymreig, cyfryngol, diwylliannol, academia a gwleidyddiaeth roi addewid bendant i roi anerchiad i fyfyrwyr mewn ysgolion Uwchardd y wladwriaeth unwaith y flwyddyn er mwyn codi gobeithion ag ymestyn gorwelion.

Syniad Golygydd Busnes y BBC, Robert Peston, sydd eisiau i bobl ifanc mewn ysgolion a cholegau mewn ardaloedd difreintiedig i dderbyn yr un cyfleoedd i glywed gan siaradwyr ysbrydoledig ac a geir gan y rhai sy’n mynychu’r ysgolion annibynol gorau. Y syniad yw lefelu’r maes chwarae ag iddi ddod yn arferiad i arweinwyr yn eu meysydd i annerch mewn ysgolion a cholegau’r wladwriaeth. Lawnsiwyd Speakers for Schools yn Lloegr yn Hydref 2011 a gweinyddir ef gan elusen fechan - Education and Employers Taskforce .



Cynnwys y siaradwyr o feysydd busnes, diwylliant ac academia sydd yn cefnogi’r lawnsiad Cymreig:


Lord Burns (Cadeirydd Santander UK plc & Theledu Channel 4 ), Cambridge Jones (ffotograffydd portread), Alan Edmunds (Golygydd papur newyddion y Western Mail), Huw Edwards (cyflwynydd newyddion & gohebydd y BBC), Henry Engelhardt (Prif Weithredwr Grŵp Admiral), Dame Amelia Fawcett (Cyfarwyddwr Bwrdd, Grŵp Guardian Media), Andrew Green (Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru), Efa Gruffudd-Jones (Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru), Yr Athro Stephen Hagen (Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, Casnewydd), Julia Hobsbawm (Cadeirydd a Phrif Weithredwr Julia Hobsbawm Consulting), Prof John Hughes (Is-Ganghellor PrifysgolBangor), Ian Jones (Prif weithredwr S4C), Prof April McMahon (Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth), Geoff Mulgan (Prif Weithredwr NESTA), Robert Peston (Golygydd Busnes y BBC), Ed Richards (Prif Weithredwr Ofcom) a Simon Thirsk (Awdur & Chadeirydd, Bloodaxe Books).

Mae gan Siaradwyr i Ysgolion gefnogaeth ar draws y partion. Yn cymryd rhan o fyd Gwleidyddiaeth Gymreig mae:

Leighton Andrews (Gweinidog Addysg a Sgiliau), Cynog Dafis (Cyn AS & A.C. Plaid Cymru), Andrew RT Davies (Arweinydd y Gwrthwynebwyr – Llywodraeth Cymru), Yr Arglwydd Davies (Tŷ’r Arglwyddi & Chyngor Bro Morgannwg), Carwyn Jones (Prif Weinidog, Llywodraeth Cymru), Baroness Kingsmill (Tŷ’r Arglwyddi), Rhodri Morgan (cyn Brif Weinidog Cymru) a Kirsty Williams (Arweinydd Y Rhyddfrydwyr Cymreig).

Dewisiwyd yr wythnos er mwyn cydfynd â Chynhadledd ASCL Cymru sydd yn cael ei chynnal ar 29 a 30 Tachwedd 2012. Bu i dros 800 o bobl ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban gytuno i gymryd rhan gan gynnwys Prif Swyddogion Addysg arweiniol, gwleidyddion, pobl gyfryngol a chelfyddydol, gwyddonwyr, entrepreneriaid ac academwyr. Anerchir ar faterion cyfoes o bwys: technolegeol, gwyddonol, gwleidyddol, economaidd, hanesyddol, diwylliannol, celfyddydol, moesol ag ecolegol.

Dywed Robert Peston, Golygydd busnes BBC a ffurfiwr Siaradwyr i Ysgolion:

'Dibynna’n dyfodol ffyniannol i raddau ar godi dyheadau ar gyfer pobl ifanc, a gynorthwywir drwy sicrhau mynediad iddynt at feddyliau symbylol a disglair. Caf wefr fod cymaint o siaradwyr da’n cymryd rhan yn lawnsiad Cymreig Siaradwyr i Ysgolion.'


Meddai Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

'Mae cynllun 'Speakers for Schools' yn fenter newydd, unigryw i ehangu gorwelion a chodi uchelgeisiau ymysg myfyrwyr ysgolion trwy Gymru - ac yn ffordd wych i ni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ledaenu'r neges am y gyrfaoedd cyffrous sydd ar gael yn y sectorau diwylliant a gwybodaeth.'



Gwybodaeth pellach:

Elin Haf, Swyddfa’r Wasg LLGC 01970 632534 post@llgc.org.uk
Twitter: @Speakrs4Schools #S4SWales


Bydd Andrew Green yn siarad yn Ysgol Tasker Milward, Hwlffordd 28.11.12 am 2.15p.m

Nodiadau:

Menter yw Siaradwyr i Ysgolion i gael siaradwyr symbylus yn eu meysydd i annerch am ddim mewn ysgolion a cholegau’r wladwriaeth, gan flaenoriaethu’r rhai mwyaf difreintiedig. Ymwela siaradwyr o’r fat hag ysgolion annibynnol yn aml ond nid oes gan ysgolion a cholegau’r wladwriaeth y rhwydwaith i fynd atynt. Syniad Robert Peston, Golygydd Busnes y BBC yw Siaradwyr i Ysgolion sy’n cael ei weinyddu gan yr elusen the ‘Education and Employers Taskforce’.
Bydd y siaradwyr yn cyfeirio at y testunau mawr: technolegeol, gwyddonol, gwleidyddol, economaidd, hanesyddol, diwylliannol, celfyddydol, moesol ag ecolegol. Bu i 800 o siaradwyr dderbyn gwahoddiad yn barod i gymryd rhan. Y bwriad yw lledaenu gorwelion a chodi gobeithion pobl ifanc.



Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012