Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Anrheg Nadolig Gwych i'r Llyfrgell

Thu, 13 Dec 12 15:11:00

Mae staff y Llyfrgell Genedlaethol yn dathlu’n gynnar eleni, gyda’r cyhoeddiad bod cyfarwyddwr y ffilm eiconig Under Milk Wood (1972) wedi penderfynu trosglwyddo’r ffilm i ofal yr Archif Genedlaethol Sgrin a Sain ynghyd â chasgliad ardderchog o ddeunyddiau atodol. Fe gyhoeddodd Andrew Sinclair y newyddion neithiwr mewn dangosiad o’r  ffilm yn sinema Chapter, Caerdydd, ble dangoswyd hefyd rai o’r ffotograffau, sgriptiau ac arteffactau  gwreiddiol yn ymwneud â chynhyrchu’r ffilm – oll yn rhan o gasgliad fydd hefyd yn cael cartref yn y Llyfrgell ac ar gael i’w mwynhau a’u hastudio.


Meddai Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:


‘ Mae’r cyhoeddiad hwn yn newyddion gwych i’r Llyfrgell,  a gallai’r amseru ddim bod yn well. Ar ben y ffaith bod y ffilm yn 40 oed eleni, mae paratoadau eisoes ar y gweill ar gyfer dathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas yn 2014. Mae nifer o gasgliadau yn ymwneud ar bardd wedi 'dod adref' atom, er budd y genedl, dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae potensial amlwg i’r casgliad cyfoethog hwn ychwanegu dimensiwn unigryw ac apelgar i’r dathliadau.
‘Rydym yn hynod ddiolchgar i Dr Sinclair am ei haelioni a’i benderfyniad mai’r casgliad cenedlaethol yw’r cartref priodol ar gyfer y pecyn hynod hwn.’


Mae’r Llyfrgell hefyd yn croesawu’r penderfyniad hirben i sefydlu Ymddiriedolaeth i ymdrin â hawliau’r ffilm er mwyn sicrhau bod pob incwm yn mynd tuag at gynnal prosiectau diwylliannol ac addysgol yn ymwneud â hi.


Meddai Andrew Green:


‘Mae budd cyhoeddus o’r math yma yn eithriadol o bwysig o safbwynt y Llyfrgell, sydd yn diogelu ei thrysorau nid er ei fwyn ei hun ond er mwyn i bobl gael eu gweld a’u defnyddio. Mae hefyd yn cyd-daro yn dda iawn â chynlluniau cyffrous sydd ar y gweill gan yr Archif Sgrin a Sain i gydweithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol ar sail y casgliad ffilm – felly edrychwn ymlaen yn fawr at gydweithio gyda’r Milkwood Trust a’i gynrychiolaeth o BAFTA Cymru a’r BBC - dwi’n siŵr y bydd y berthynas yma’n sbarduno prosiectau creadigol all ysbrydoli cenhedlaeth newydd o wneuthurwyr ffilm ac ati.’


Gogoniant y rhodd hael hon yw bod y pecyn i gyd yma, yn adnodd cyflawn, cyfoethog i bob math o ddefnyddiwr. Nid dim ond y ffilm, ond hefyd hanes gwneud y ffilm yn ardal Abergwaun ar ffurf lluniau, llythyrau, sgriptiau ac ati -  ac ôl llaw yr actorion eithriadol hyn - Burton, Taylor, Phillips, Ryan Davies ac O’Toole a chymaint o’r cast enwog – yn llythrennol i’w weld ar y defnyddiau.


Edrychwn ymlaen y fawr i groesawu Captain Cat, Polly Garter, Mrs Ogmore Pritchard a’u cyfeillion oll i’w cartref newydd yn Aberystwyth!


Gwybodaeth bellach:


Elin Hâf, Swyddfa’r Wasg LLGC 01970 6325354 post@llgc.org.uk


Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru 01970 632828


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012