Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Yr Eisteddfod mewn Lluniau

Tue, 31 Jul 07 14:18:00

Yr wythnos hon cyhoeddir cyfrol sy'n rhoi blas ar ffotograffau person a wnaeth fwy na neb i roi'r bywyd eisteddfodol ar gof a chadw - Geoff Charles. Er nad oedd Geoff yn un o ŵyr y 'pethe' teithiodd i gannoedd o eisteddfodau bach a mawr wrth weithio i'r Cymro o'r 1930au ymlaen, ac yn y gyfrol Eisteddfodau Geoff Charles ddetholwyd cyfran o'i luniau gan yr awdur Ioan Roberts.

Meddai Ioan Roberts: ‘Er nad oedd eisteddfodau yn rhan o fagwraeth Geoff ger Clawdd Offa, roedd wedi dod yn ddigon agos at galon y sefydliad eisteddfodol i wybod cymaint â neb am eu gweithrediadau a'u cyfrinachau.  Yn dechrau'r 1980au cafodd 120,000 o'r negyddion eu catalogio'n fanwl gan staff y Llyfrgell Genedlaethol gyda chymorth Geoff ei hun,  ac yn eu plith mae adran arbennig ar gyfer miloedd o luniau o eisteddfodau mawr a mân, lleol, taleithiol, cenedlaethol a rhyngwladol, a fu'n fara menyn i'r Cymro am ddegawdau.’

Rhoddwyd cydnabyddiaeth i Geoff Charles am ei gyfraniad i'r Eisteddfod Genedlaethol yn Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan 1984 lle cafodd ei wneud yn aelod llawn o'r orsedd.

Cyhoeddir y gyfrol Eisteddfodau Geoff Charles ar 31 Gorffennaf yn Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyhoeddir y gyfrol gan Y Lolfa gyda chydweithrediad Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dyma’r drydedd gyfrol o ffotograffau Geoff Charles gan yr awdur Ioan Roberts. Cyhoeddwyd Cymru Geoff Charles yn 2004 a Cefn Gwlad Geoff Charles yn 2006.

‘Rydym fel Llyfrgell wedi dechrau ar y broses o ddigido ffotograffau Geoff Charles a gellir gweld miloedd ar ein gwefan. Ond yn ogystal â rhoi’r casgliadau ar y wefan mae wastad yn bleser cael gweld y gorau o’r ffotograffau rhwng dau glawr ac yn enwedig mewn cyhoeddiadau mor ddifyr a theilwng â chyfres Y Lolfa. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn falch iawn i gyd-weithio ar y drydedd yn y gyfres yma o luniau Geoff Charles,’ meddai Andrew Green, Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol.


 


Eisteddfodau Geoff Charles, £12.95 (yn y Gymraeg yn unig)
Gol.: Ioan Roberts

Gallwch brynu copi yn Siop y Llyfrgell neu ar ein siop ar-lein: siop.llgc.org.uk


Dolenni:

Geoff Charles ar Wefan y Llyfrgell

Ffotograffau Geoff Charles o’r Ail Ryfel Byd

Y Lolfa

Eisteddfod ar y Wicipedia


AM WYBODAETH BELLACH:

Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902  sij@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012