Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Casglu a rhannu’r profiad Cymreig o’r Rhyfel Byd Cyntaf

Fri, 25 Jan 13 10:15:00

Oes gennych chi lythyron, ffotograffau, cardiau post neu eitemau eraill yn berchen i rywun a fu’n byw yn ystod y cyfnod neu i’r sawl oedd ar faes y gad?  Dyma wahoddiad i chi rannu’r eitemau gyda phawb mewn cyfres o ddigwyddiadau ym mis Mawrth. Gobeithir casglu a chofnodi profiadau personol y Cymry a effeithiwyd gan y Rhyfel.

Effeithiodd y rhyfel ar bawb; rhai fu’n ymladd, a’r rhai a arhosodd adref. Os oes gennych chi eitemau sy’n berthnasol i unrhyw agwedd o fywyd yn ystod blynyddoedd y Rhyfel, plîs dewch â nhw i un o’r digwyddiadau er mwyn i ni eu digido a’u rhannu.

Mae prosiect cenedlaethol a arweinir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â llyfrgelloedd, casgliadau arbennig ac archifau Cymru yn gobeithio datgelu hanes cudd y Rhyfel Byd Cyntaf a sut y bu iddo effeithio ar Gymru oll, yr iaith a diwylliant. Bydd y casgliad digidol i’w weld ar-lein ac mae Casgliad y Werin Cymru, partner yn y prosiect, yn gwahodd y cyhoedd i fod yn rhan o’r prosiect trwy ddod â’u deunydd i un o gyfres o ddigwyddiadau lle y bydd staff ar gael i sganio llythyron, ffotograffau, tystysgrifau, cardiau post, dyddiaduron ac unrhyw ddogfennau amrywiol eraill.

Dywedodd Robert Phillips, Rheolwr y Prosiect:

‘Bydd gwahodd y cyhoedd i rannu deunydd yn galluogi’r prosiect weld safbwynt llawer ehangach, personol ac agos at y galon o brofiadau’r Cymry’n yn ystod y Rhyfel, gan gael mynediad at eitemau nad sydd ar gael mewn Archifau a llyfrgelloedd yn aml.’

Mae nifer o adrannau Casgliadau Arbennig prifysgolion Cymru yn rhan o’r prosiect a dywed Gethin Matthews o Brifysgol Abertawe:

‘Rydym yn gobeithio dod o hyd i drysorau fydd o ddiddordeb mawr i’r cyhoedd a bydd hefyd yn gymorth i’n hymchwil academaidd trwy gynyddu ein hymwybyddiaeth o’r profiad o fyw yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Mawr. Yn nhermau gwerthfawrogi beth oedd profiad y Cymry yn ystod y Rhyfel, does dim i guro tystiolaeth ysgrifenedig gan bobl a fu’n byw trwy’r cyfnod. Yn ogystal â deunydd o gasgliadau teuluol, mae gen i ddiddordeb yng nghofnodion sefydliadau, fel capeli. Roedd ganddynt rôl ganolog mewn nifer o gymdeithasau yng Nghymru, a gall eu hadroddiadau blynyddol helpu ni i ddirnad agweddau’r sefydliadau yma, a’u harweinwyr, i’r Rhyfel.’

Bydd y deunydd yma ar gael ar wefan Casgliad y Werin Cymru a dywedodd Carys Morgan, un o swyddogion y prosiect:

‘Mae casglu a rhannu’r eitemau yma, sy’n aml yn bersonol a theimladwy iawn, yn cyfrannu’n fawr at ein dealltwriaeth ni o’r Rhyfel a Chymru’n ystod y cyfnod hwn, ac mae’n ffordd bwysig o goffáu canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Mawr. Gallwch gyfrannu i’r prosiect trwy ddod i’r digwyddiadau a chael eich deunydd wedi sganio gan ein staff. Neu, gallant gyfrannu eitemau neu atgofion trwy ymweld â gwefan Casgliad y Werin Cymru, www.casgliadywerincymru.co.uk, os nad ydych yn gallu cyrraedd un o’r digwyddiadau.’

I gyfrannu i’r prosiect, dewch a’ch llythyron, dyddiaduron, tystysgrifau, ffotograffau ac unrhyw gofnod o bwys i’r cyfnod yma, i un o’r digwyddiadau yma rhwng 10yb a 4yh.

5 Mawrth: Galeri, Caernarfon
12 Mawrth: Canolfan Gelfyddydau Pontardawe
14 Mawrth: Llyfrgell Aberhonddu
18 Mawrth: Llyfrgell Rhuthun
20 Mawrth: Canolfan Gymunedol Picton, Hwlffordd

Nodiadau i Olygyddion


Datblygwyd y prosiect gan Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF). Daw’r casgliadau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru; Casgliadau Arbennig Prifysgol Aberystwyth; Casgliadau Arbennig Prifysgol Bangor; Casgliadau Arbennig Prifysgol y Drindod Dewi Sant; Prifysgol Abertawe; Llyfrgell Prifysgol Caerdydd; Archifau BBC Cymru Wales ac archifau lleol sy’n aelodau o Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru (ARCW). Bydd Casgliad y Werin Cymru yn casglu’r cynnwys a gynhyrchir gan gymunedau, haneswyr lleol a haneswyr teulu. Byddant hefyd yn digido eitemau o gasgliadau personol wrth deithio ar draws Cymru yn digido deunydd o bwys. Drwy wneud hyn byddant yn ychwanegu a chryfhau casgliadau’r partneriaid Addysg Uwch gan greu casgliad digidol cyflawn, unedig, i gynrychioli profiad y genedl Gymreig yn ystod y Rhyfel Mawr.

Mae’r cynnwys sydd i’w ddigido wedi ei ddethol mewn cydweithrediad ag academyddion Cymru a thu hwnt, a bydd gwaddol digidol y prosiect yn arwain at ymchwil newydd am Gymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Gwefan arbennig ar gyfer hanes Cymru a’i phobl yw Casgliad y Werin Cymru. Mae’n wefan ddwyieithog, ddynamig yn llawn ffotograffau diddorol, clipiau sain, dogfennau, fideos a straeon am hanes a threftadaeth Cymru a’i phobl. Gallwch bori trwy dros 46,000 o eitemau sydd wedi eu cyfrannu gan amgueddfeydd, archifdai, llyfrgelloedd, cymdeithasau hanes ac unigolion ac fe allwch chi rhannu eich atgofion â’r casgliad.

Caiff y project ei gyllido gan raglen e-gynnwys 2011-13 y JISC, trwy’r adran ddigido ar raddfa fawr, a chan gyfraniadau partneriaid, yn arbennig y Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle lleolir y project. Ein partneriaid yw: Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Casgliad y Werin Cymru, Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru (ARCW) a BBC Cymru Wales.

Cost y prosiect digido yma fydd £987,916. Daw £500,000 o’r gyllideb raglen cynnwys JISC ar gyfer 2011-13. Codir gweddill yr arian drwy gyfraniad sefydliadol bunt am bunt partneriaid y prosiect.
Dechreuodd y project ar Ebrill 1af, 2012, a chaiff yr adnoddau eu lansio ar-lein ddiwedd Mehefin 2013.


Gwybodaeth Bellach:


Carys Morgan carysm@culturenetcymru.com neu 01970632500



 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012