Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Menter Newid Pethe yn rhoi cyfle i ragor o blant ddathlu Diwrnod y Llyfr mewn llyfrgelloedd ledled Cymru.

Tue, 05 Mar 13 16:21:00

Mae menter Newid Pethe yn rhoi cyfle i ragor o blant ddathlu Diwrnod y Llyfr mewn llyfrgelloedd ledled Cymru.

Er mwyn annog hyd yn oed mwy o blant a phobl ifanc i ddathlu Diwrnod y Llyfr, ac i ddod i gysylltiad â llyfrgelloedd ledled y wlad, mae Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth – trwy gyfrwng Newid Pethe, un o fentrau Llywodraeth Cymru – wedi cynyddu ei gefnogaeth i weithgareddau mewn llyfrgelloedd ym mhob un o 22 Awdurdod Lleol Cymru. Bydd gweithgareddau Diwrnod y Llyfr yn cynnwys ymweliadau gan awduron, sesiynau stori a gweithdai ysgrifennu.

Mae’r Llywodraeth hefyd yn cefnogi pythefnos o weithgareddau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, a threfnir digwyddiadau yno’n rhad ac am ddim i o leiaf 12 ysgol o Bowys, Sir Gaerfyrddin a Gwynedd.

Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: “Nod ein menter Newid Pethe yw dod o hyd i ffyrdd newydd o rannu ein hamgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd a mannau hanesyddol gyda phobl ifanc a’u teuluoedd, yn arbennig y rheini sy’n dod o gefndiroedd llai breintiedig. Bydd hefyd yn helpu asiantaethau cymorth a’r sector diwylliant i weithio hyd yn oed yn well gyda’i gilydd.”

Dywedodd Angharad Tomos, Pennaeth yr Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen, Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydym wrth ein boddau gyda’r gefnogaeth ychwanegol hon gan Lywodraeth Cymru, trwy’r cynllun Newid Pethe. Mae’r digwyddiadau hyn, a gynhelir o gwmpas Diwrnod y Llyfr, yn ffordd wych o gysylltu â phlant a’u teuluoedd, a’r gobaith yw y byddant yn annog hoffter o ddarllen fydd yn para am oes. Mae’r arian ychwanegol wedi galluogi’r Llyfrgell Genedlaethol a Gwasanaethau Llyfrgell ledled Cymru i gynnig rhaglen o weithgareddau hwyliog a chyffrous, yn seiliedig ar lyfrau a darllen.”

Dywedodd Owen Llywelyn, ar ran Llyfrgell Genedlaethol Cymru: “Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dathlu Diwrnod y Llyfr trwy gyflwyno deuddeg o weithdai i ddisgyblion ysgolion cynradd. Yr ysgolion a wahoddir i ymweld â’r Llyfrgell yw Castell Caereinion, Trefaldwyn, Griffith Jones, Dyffryn Trannon, Llechyfedach, Dewi Sant Llanelli, Llan-non Llanelli, Glantwymyn, Cefn Coch, Pont-ffranc, Llanfair Caereinion a Dyffryn Banw.”

Bydd disgyblion yn dysgu am y casgliad anhygoel o lyfrau a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol; cânt gyfle i weld y llyfr printiedig lleiaf yn y byd, sy’n mesur 1mm x 1mm; llyfrau ‘eliffant’ anferth, a chopi gwreiddiol o’r Beibl Cymraeg cyntaf un. Byddant hefyd yn cael gwybod mwy am rai o’r chwe miliwn o lyfrau sy’n ffurfio rhan o gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol; byddant yn gweld llawysgrif o’r Oesoedd Canol, ac yn dysgu sut roedd llyfrau’n cael eu cynhyrchu cyn i’r wasg argraffu gael ei dyfeisio.”


Gwybodaeth Bellach:


Nia Lewis nsl@llgc.org.uk neu 01970 632996

Cynhelir Diwrnod y Llyfr 2013 ddydd Iau 7 Mawrth, gyda nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau difyr a diddorol yn cael eu cynnal ledled Cymru. Am ragor o wybodaeth, ewch i bit.ly/worldbookday neu dilynwch ni ar Facebook Diwrnod y Llyfr / World Book Day a Twitter @DYLLCymruWBDWales.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech ddefnyddio’r hashnod isod mewn unrhyw ohebiaeth:
#newidpethe

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012