Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Papurau Newydd Cymru Ar-lein

Tue, 12 Mar 13 14:42:00

1,000,000 o dudalennau o hanes Cymru hyd 1910 ar-lein, am ddim.

Bydd prosiect Papurau Newydd Cymru Ar-lein Llyfrgell Genedlaethol Cymru'n cael ei lansio gan Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd ar ddydd Mercher 13 Mawrth.

Mae Papurau Newydd Cymru Ar-lein yn adnodd a fydd yn galluogi unrhyw un sy’n ymddiddori yn hanes a phobl Cymru i bori a chwilio 100 a mwy o deitlau o’i chasgliad cyfoethog o bapurau newydd cyn 1910 – a hynny yn rhad ac am ddim. Y cynllun hwn yw’r prosiect digido mwyaf i’r Llyfrgell i ymgymryd ag ef.

Mae prosiect Papurau Newydd Cymru Ar-lein yn cyfrannu at weledigaeth bellgyrhaeddol y Llyfrgell i fod y genedl gyntaf i ddigido'r cyfan o’i chynnyrch print cyhoeddedig a’i rannu yn rhad ac am ddim ar y we.

Meddai’r Llyfrgellydd Andrew Green:
‘Bydd defnydd uchelgeisiol Llyfrgell Genedlaethol Cymru o dechnoleg yn ymestyn yn helaeth ddefnydd a gwerth y cofnod ysblennydd hwn o wybodaeth, Bydd trosi’r fformat papur gwreiddiol i ffurf ddigidol a sicrhau ei fod ar gael am ddim i’w ddefnyddio ar ei gwefan yn trawsnewid y ffordd mae pobl yn dysgu am ac ymchwilio hanes, diwylliant a hunaniaeth Cymru’.

Nid yn unig y bydd Papurau Newydd Cymru Ar-lein yn galluogi’r ymchwilydd i bori a darllen copïau digidol y dudalen wreiddiol ond hefyd i allu chwilio am eiriau, enwau a dyddiadau ar draws yr un filiwn tudalen i gyd ar yr un pryd.    

Mae’r teitlau canlynol eisoes ar gael ar y wefan:  Merthyr Times and Dowlais Times and Aberdare Echo, South Wales Star, Y Gwladgarwr, Y Dydd ar Prestatyn Weekly.

Bydd yr adnodd yn parhau i dyfu wrth i ragor o deitlau gael eu hychwanegu yn ystod 2013, gan gynnwys: Western Mail, North Wales Chronicle, Y Cymro, ar Cardiff Times.

Meddai Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth:

‘Rwy’n falch dros ben fod Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu £2 filiwn i gefnogi’r prosiect pwysig yma. Hwn fydd y casgliad mwyaf o destun yn ymwneud â Chymru y gellir chwilio drwyddo, ac fe fydd yn cyfrannu’n sylweddol at weledigaeth y Llyfrgell Genedlaethol o ddigido cof printiedig Cymru yn ei gyfanrwydd.’

Ychwanegodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog:

‘Creu dolen gyswllt rhwng ein gorffennol a’n dyfodol yw diben y prosiect uchelgeisiol yma, a diogelu’r ffordd yr adroddwyd hanes ein cenedl yn y wasg ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd pobl o bedwar ban byd yn gallu chwilio am eiriau, ymadroddion a dyddiadau a dod o hyd i hanesion di-rif, dim ond drwy bwyso botwm. Fel arall, dim ond mewn archifdai y byddai’r deunyddiau hyn ar gael.’

Ariannwyd y cynllun hwn trwy gymorth y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. 


Gwybodaeth Bellach:
Elin Hâf 01970 632534  post@llgc.org.uk

Dolenni Defnyddiol
:
papuraunewyddcymru.llgc.org.uk
@LLGCymru #papur

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012