Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Diwrnod Eiddo Deallusol y Byd

Fri, 26 Apr 13 09:53:00

I ddathlu Diwrnod Eiddo Deallusol y Byd (26 Ebrill) ac i ennyn trafodaeth am rôl Eiddo Deallusol mewn annog arloesedd a chreadigrwydd, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi  penderfyniad arloesol mewn perthynas â’u casgliadau digidol, trwy ddatgan na fyddent bellach yn hawlio perchnogaeth o hawlfraint copïau digidol sydd yn eu gofal.

Ers nifer o flynyddoedd bellach, mae’r Llyfrgell wedi bod yn weithgar iawn wrth ddefnyddio’r we a digido fel ffordd o ehangu mynediad i’w casgliad. O’r llawysgrifau cynharaf i gyfrolau dirifedi o bapurau newydd Cymraeg o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae’r Llyfrgell wedi digido a chyhoeddi copiau o rai o’u casgliadau mwyaf gwerthfawr fel bod pawb yn gallu eu gweld ar-lein, unrhyw le, unrhyw bryd.

Mae'r rhain yn cynnwys:
•    Llyfr du Caerfyrddin (c.1250):  un o'r llawysgrifau Cymraeg cynharaf i oroesi.

•    Yny lhyvyr Hwnn gan John Price (1546), y llyfr cyntaf i gael ei argraffu yn yr iaith Gymraeg. 

•    Atlas Sirol Thomas Taylor (1718), yr atlas cyntaf yn ymwneud yn gyfan gwbl â Chymru.

•    Papurau Newydd Cymru Ar-lein – prosiect digido mwyaf y Llyfrgell

Yn ystod y misoedd nesaf, bydd y Llyfrgell yn gweithredu polisi a fydd yn golygu y bydd miloedd o’r delweddau sydd ar ei gwefan yn rhydd o gyfyngiadau hawlfraint.  Dylai defnyddwyr y wefan fod yn ymwybodol y bydd hawliau trydydd parti ynghlwm wrth rhai o’r delweddau ac bydd angen clirio rheini cyn eu defnyddio, ond ni fydd y Llyfrgell yn gosod unrhyw gyfyngiadau hawlfraint ychwanegol  arnynt oni bai ei bod berchen yr hawlfraint yn y gwaith gwreiddiol. Bydd fersiynau cydraniad uchel o’r delweddau yn parhau i fod ar gael dan drwydded drwy Wasanaeth Ymholiadau’r Llyfrgell.

Meddai Syr Deian Hopkin, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

‘Mae’r penderfyniad pwysig hwn yn gyson â'r agwedd agored am dechnoleg ddigidol rydym wedi ei fabwysiadu dros y ddegawd ddiwethaf. Nid penderfyniad wedi ei selio ar ein dehongliad ni o gyfraith hawlfraint mohoni;  mae’n ddatganiad am sut rydym ni yn canfod ein rôl fel Llyfrgell Genedlaethol o fewn Cymru ddigidol. Hyd y gwyddom, ni yw’r unig sefydliad diwylliannol o fewn y DU sydd wedi gwneud datganiad clir ynglŷn â pherchnogaeth a didwylledd ein casgliad digidol.’

Ychwanegodd Dafydd Tudur, Rheolwr Hawliau a Gwybodaeth y Llyfrgell:

‘Mae hwn yn gyfle gwych i rannu ein casgliadau gyda phobl Cymru a thu hwnt. Dylai bod gan y cyhoedd yr hawl i ddefnyddio a gweld y casgliadau sydd o dan ein gofal  a dylai’r Llyfrgell Genedlaethol gael ei gweld fel hwylusydd yn hytrach na cheidwad porth.’

Mae’r agwedd hon wedi ei chroesawu’n fawr gan ddefnyddwyr y Llyfrgell ac mae wedi creu diddordeb mawr o fewn y sector ddiwylliannol.  Bydd y datblygiad hwn nid yn unig yn cyfrannu tuag at gynyddu ymwybyddiaeth o hanes Cymru a’i phobl yng Nghymru a thu hwnt, ond bydd hefyd yn cynyddu proffil Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac ailddatgan ei statws fel un o sefydliadau diwylliannol mwyaf arloesol y Deyrnas Unedig.

Gwybodaeth Bellach:
Elin Hâf, Swyddfa’r Wasg 01970 632534 neu post@llgc.org.uk





Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012