Fri, 03 May 13 10:46:00
Ynglŷn â’r tân yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddoe (Dydd Gwener 26 Ebrill). Yn dilyn seinio’r larwm tân am tua 2:40pm llwyddodd y Llyfrgell i hebrwng pawb allan o’r adeilad yn ddiogel. Llwyddod y Gwasanaethau Tân i ddiffodd y tân a dechrau ar y gwaith o arbed y cynnwys.
Ar hyn o bryd mae’r Gwasanaethau Tân yn ymchwilio i achos y tân. Yn y man, bydd y Llyfrgell yn cynnal eu hymchwiliad eu hunain. Roedd contractwyr yn gweithio ar do'r adeilad ddoe yn union cyn i'r tân gynnau ond nid yw’r Llyfrgell mewn unrhyw sefyllfa i ddod i unrhyw gasgliadau ar sail hyn.
Dioddefodd y Llyfrgell ddifrod tân, mwg a dŵr i ardaloedd a ddefnyddid yn bennaf fel swyddfeydd. Ni effeithiwyd unrhyw storfeydd a'r unig gasgliadau i ddioddef unrhyw niwed oedd y rhai oedd y staff yn eu defnyddio ar y pryd yn yr ardaloedd hynny. Mae’r Llyfrgell ar hyn o bryd yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaethau Tân i asesu’r difrod ac i sicrhau mynediad diogel i’r staff i’r ardaloedd a effeithiwyd.
Dywedodd Arwel Jones ar ran y Llyfrgell: ‘Llwyddwyd i wagio’r adeilad yn effeithiol ddoe. Rydym wedi gweithredu cynllun argyfwng fydd yn diogelu'r adeilad a'n casgliadau rhag rhagor o ddifrod. Mae peirianwyr yn ein cynorthwyo gyda'r broses hon.
Dywedodd Syr Deian Hopkin, Llywydd y Llyfrgell: 'Hoffwn ddatgan fy rhyddhad at y newyddion bod pawb wedi llwyddo i adael yr adeilad yn ddiogel pan seiniwyd y larwm tân ac ar ran y Llyfrgell hoffwn ddiolch i Wasanaethau Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru am ymateb yn sydyn a’u hymdrechion i ddiffodd y tân. Hoffwn hefyd ddiolch i’r nifer fawr o unigolion a sefydliadau am eu cynigion sydyn o gymorth ymarferol a’u cydymdeimlad ar y cyfnod anodd hwn yn hanes y Llyfrgell.
Bydd y Llyfrgell yn parhau ar gau ddydd Llun 29 Ebrill tra byddwn yn parhau i asesu'r sefyllfa. Bydd y Llyfrgell yn cyhoeddi diweddariadau cyson i’r staff a’r cyhoedd drwy gyfrwng ei gwefan, facebook a’i chyfrif trydar.
Am ragor o fanylion.
Elwyn Williams 07866 834109
Arwel Jones 07527 198861