Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Structures of Feeling: Geoff Charles

Fri, 03 May 13 09:30:00

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn falch o fod yn rhan o Ŵyl Ryngwladol Ffotograffiaeth Caerdydd Diffusion a gynhelir rhwng 1 a 31 Mai 2013.

Gŵyl mis o hyd yw Diffusion gydag arddangosfeydd, trafodaethau, dangosiadau, perfformiadau, digwyddiadau a dathliadau mewn gofodau a llefydd go iawn a rhithwir.

Bydd Arddangosfa o waith y ffotonewyddiadurwr Geoff Charles o gasgliad y Llyfrgell yn cael ei arddangos yn y Tramshed, Heol Clare, Grangetown.  Curadwyd yr arddangosfa gan Peter Finnemore a Russell Roberts.
Am bron hanner canrif, bu Geoff Charles yn ffotonewyddiadurwr blaenllaw gydag amryw o bapurau a chylchgronau Cymreig. Ledled gogledd Cymru a’r gororau, dogfennodd ffabrig bywyd bob-dydd yn ogystal â thraddodiadau a moderneiddio Cymru. Mae damweiniau, ffasiwn, ffermio, Eisteddfodau, achlysuron dinesig, diwydiant, teithio, protest a rhyfel oll yn cael eu dogfennu yn ei waith.

Mae’r arddangosfa, sy’n cynnwys printiau graddfa-fawr ynghyd â thafluniadau a ffilm, hefyd yn archwilio’r angen am ymyriad cyson o fewn casgliadau i sicrhau y gallant ddal i fod yn hyblyg ac yn agored i’w hadolygu.

Mae Diffusion 2013 yn archwilio’r newidiadau diwylliannol hyn a gwahanol ffyrdd o gynhyrchu, cyflwyno a dosbarthu celf. Edrychir ar y berthynas mewn celf ffotograffig rhwng ffurfiau traddodiadol a rhai newydd cymysgryw a’u lle yn y diwylliant gweledol cyfoes. Cynigir gofod i artistiaid, gweithredwyr diwylliannol a chynulleidfaoedd rannu profiad ac ymdrech creadigol, i gychwyn gwneud synnwyr o fyd lle y gall, ac y gwna, bron unrhyw un droi’n ffotograffydd a dosbarthu eu delweddau o fewn cymunedau ar-lein – cymdeithas lle bu newid dramatig yn ein profiad o amser a gofod.

Cynhelir Diffusion 2013 yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru, a weddnewidiwyd yn economaidd a chymdeithasol yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r ŵyl yn defnyddio cyfryngau traddodiadol a newydd i greu presenoldeb gweledol cryf ar draws lleoliadau perfformio sy’n bod eisoes a gofodau cael, a thrwy wahanol ymyriadau yn y parth cyhoeddus. Anogwn ymwelwyr a thrigolion ill dau i grwydro Caerdydd a’r cyffiniau mewn ffyrdd newydd a dod o hyd i agweddau ar y ddinas na fyddent yn disgwyl eu darganfod fel arfer.

Yn bennaf oll, dathliad yw Diffusion 2013 o ffotograffiaeth a’r ddelwedd ffotograffig yn ei holl ffurfiau. Boed wedi ei greu, ei gyhoeddi, ei arddangos, ei gasglu neu ei ddosbarthu mewn ffordd real neu rithwir, mae gan y ffotograff y pŵer i ysbrydoli ac ennyn ymateb, i adlewyrchu’n profiad ein hunain ac eiddo’r gymdeithas sy’n esblygu o’n cwmpas.

Gwybodaeth Bellach:

Elin Hâf, Swyddfa’r Wasg 01970 632534 neu post@llgc.org.uk

Dolenni Defnyddiol:
Casgliad Geoff Charles

@_Diffusion




Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012